Bydd gwerthusiad pedair blynedd a gomisiynodd Lywodraeth Cymru o’r cynllun peilot incwm sylfaenol yn asesu canlyniadau ar gyfer oedolion ifanc sy’n derbyn incwm, costau a budd-daliadau’r cynllun. Bydd hefyd yn asesu sut mae’n gweithio’n ymarferol i’r rhai sy’n derbyn ac yn cyflwyno’r cynllun.

Mae’r prosiect ymchwil hwn yn cael ei gynnal rhwng Tachwedd 2022 a Thachwedd 2026 ac yn cael ei arwain gan CASCADE. Mae academyddion o Goleg y Brenin Llundain, Prifysgol Rhydychen, Prifysgol Efrog, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Northumbria a’r Ganolfan Effaith Di-Gartrefedd yn rhan o’r tîm.

Trosolwg

Ers 1 Gorffennaf 2022, mae dros 500 o bobl ifanc sy’n gadael gofal yng Nghymru wedi cael cynnig £1600 y mis (cyn treth) am ddwy flynedd i’w cefnogi wrth iddynt drosglwyddo i fywyd oedolyn. Bydd y rhai y mae eu penblwyddi yn 18 oed rhwng 01.07.22 yn 30.06.23 yn rhan o’r cynllun.

Mae cynlluniau incwm sylfaenol wedi’u treialu mewn nifer o ffyrdd ledled y byd yn y blynyddoedd diwethaf, ond y cynllun hwn yw’r mwyaf hael hyd yma. Bydd y gwerthusiad yn cynyddu ein dealltwriaeth o effaith a mecanweithiau darpariaeth incwm sylfaenol a bydd yn archwilio ystod o effeithiau iechyd a chymdeithasol y cynllun ochr yn ochr â’r effaith ar incwm, gwaith ac astudio.

Gweithgareddau a Dulliau

Mae hwn yn werthusiad mawr a chymhleth. Mae ein cynllun cyffredinol yn werthusiad lled-arbrofol ar gyfer effaith a gwerth am arian, a chanddo werthusiad gweithredu a phroses aml-ddull. Mae’r gwerthusiad yn defnyddio cyfres o ddulliau lled-arbrofol, a fydd yn galluogi triongli rhwng amrywiol ffynonellau data. Drwy hyn, ein nod yw darparu cyfrif cadarn o’r gwahaniaeth y mae Incwm Sylfaenol yn ei wneud i’r rhai sy’n gadael gofal yng Nghymru.

Mae ein gwerthusiad wedi’i strwythuro o amgylch y pum pecyn gwaith canlynol:

  1. Cyd-gynhyrchu
  2. Gwella theori
  3. Gwerthuso effaith a datblygu fframwaith cysylltu data
  4. Gweithredu a gwerthuso prosesau
  5. Gwerthusiad economaidd

Canfyddiadau

Mae’r Prosiect hwn yn mynd rhagddo


Person Arweiniol

Prif YmchwilyddDavid Westlake
Prif YmchwilyddProfessor Sally Holland

Academyddion ac Ymchwilwyr

Cyd-ymchwilyddProfessor Michael SandersColeg y Brenin, Llundain
Cyd-ymchwilyddDr Elizabeth-Ann SchroederPrifysgol Rhydychen
Cyd-ymchwilyddProfessor Kate PickettPrifysgol Efrog
Arbenigwr pwncProfessor Stavros PetrouGwerthuso economaidd, Prifysgol Rhydychen
Arbenigwr pwncDr. Louise RobertsGadael gofal, Prifysgol Caerdydd
Arbenigwr pwncDr. Rod HickTlodi a nawdd cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd
Arbenigwr pwncProfessor Matthew JohnsonGwerthuso Incwm Sylfaenol Cyffredinol (UBI), Prifysgol Northumbria
Arbenigwr pwncGuillermo Rodriguez-GuzmanGwerthuso effaith a digartrefedd, Canolfan Effaith Digartrefedd.
Ysgolion CysylltiedigN/A
Partneriaid cysylltiedigN/A
ArianwyrLlywodraeth Cymru
Cyhoeddiadau cysylltiedigN/A
Dolenni cysylltiedighttps://gov.wales/basic-income-pilot-care-leavers-overview-scheme
Dogfennau cysylltiedigN/A