Nod y gwerthusiad yw archwilio gweithrediad, darpariaeth ac effaith rhaglen arloesol Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar Troseddau Cyfundrefnol Difrifol, sy’n ceisio cyfeirio pobl ifanc i ffwrdd o fywyd o droseddu cyfundrefnol difrifol. 

Arwain

Mae Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol yn cael mwy o effaith ar gymunedau’r DU nag unrhyw fygythiad cenedlaethol arall (Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, 2020). Amcangyfrifwyd bod 350,000 o unigolion a 4,772 o grwpiau troseddu cyfundrefnol ledled y DU ar hyn o bryd (Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, 2020). Y gost flynyddol i economi’r DU yw dros £37 biliwn y flwyddyn, gyda Throseddu Difrifol a Chyfundrefnol yn tyfu’n gyflym ac yn dod yn gynyddol gymhleth wrth i dechnolegau gael eu defnyddio i gyfathrebu a chuddio gweithgareddau troseddau difrifol a chyfundrefnol. Mae’r cynnig hwn yn tynnu ar y diffiniad cyffredin rhyngwladol gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig yn Erbyn Troseddau Cyfundrefnol Trawswladol a’r Undeb Ewropeaidd,

Grŵp o dri unigolyn neu fwy sy’n bodoli dros gyfnod o amser ac sy’n gweithredu ar y cyd gyda’r nod o gyflawni troseddau er budd ariannol neu faterol (Europol, dim dyddiad)

Mae’r troseddau hyn yn cynnwys troseddau caffael, seiberdroseddu, masnachu cyffuriau a phobl, arfau, gwyngalchu arian yn ogystal â cham-fanteisio troseddol ar blant. Prin yw’r dystiolaeth ar hyn o bryd ynghylch cyfranogiad plant a phobl ifanc. 

Arolwg

Mae’r Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar Troseddau Cyfundrefnol Difrifol wedi bod yn rhedeg yn Glasgow ers 2013 ac fe’i cyflwynwyd mewn pedwar safle arall ledled y DU yn 2019. Anelir y gwasanaeth at bobl ifanc 11 i 18 oed y mae gwasanaethau statudol yn eu hadnabod fel ‘pobl sy’n rheolaidd yn peidio ag ymgysylltu’ a lle bu ymdrechion aflwyddiannus blaenorol i’w troi oddi wrth droseddu. Mae’r gwasanaeth yn defnyddio dull cyfannol wrth weithio gyda phobl ifanc sydd yn aml ag anghenion cymhleth a lefelau uchel o risg. 

Mae’r prosiect yn cynnig gwasanaeth pwrpasol, gan nodi’r sbardunau unigol a’r rhesymau pam fod pobl ifanc yn troseddu gyda’r nod o rymuso pobl ifanc i wneud newid cadarnhaol. Cefnogir hyn gyda thair elfen graidd o ddarpariaeth gwasanaeth. Yn gyntaf, darparu gwaith achos dwys fel cefnogaeth un i un, mentora cyfoedion a dulliau’n seiliedig ar dystiolaeth. I gefnogi hyn datblygir gwaith amlasiantaethol â’r nod o sicrhau newid ar lefel system drwy rannu gwybodaeth, meithrin gallu a datblygu ymatebion effeithiol i bobl ifanc sy’n ymwneud â throseddau difrifol, neu sydd ar fin gwneud hynny. Yn ail, ymyrraeth ac atal cynnar yn y gymuned gyda rhwydwaith ehangach y person ifanc i atal a/neu symud brodyr a chwiorydd, cyfoedion a chymdeithion i ffwrdd o droseddu. Yn drydydd, mae’r prosiect yn cynnig dull teulu cyfan o weithio gydag aelodau o’r teulu a’u grymuso i gefnogi taith y person ifanc at lwybrau mwy cadarnhaol. 

Gweithgareddau a Dulliau

Nod y gwerthusiad yw archwilio gweithrediad, darpariaeth ac effaith y gwasanaeth ar draws pedwar safle yn y DU ar symud plant a phobl ifanc i ffwrdd o droseddu ar sail (1) ddadansoddi data gwasanaeth, (2) arolwg ar-lein (3) cyfweliadau lled-strwythuredig, (4) dadansoddi ffeiliau achos, a (5) dadansoddi data gweinyddol yr heddlu. Yn ogystal, mae’r gwerthusiad yn archwilio meysydd thematig adnabod, meithrin gallu, gweithio amlasiantaethol, ac ymyriadau wedi’u targedu. 

Canfyddiadau

Gwerthusiad o Wasanaeth Ymyrraeth Gynnar ar gyfer Troseddau Cyfundrefnol Difrifol (SOCEIS) Action for Children

Bu i ganfyddiadau interim yn seiliedig ar ddadansoddiad meintiol o ddata gwasanaethau, a dadansoddiad ansoddol o gyfweliadau lled-strwythuredig gydag ymarferwyr, mentoriaid cymheiriaid a phartneriaid prosiect, ddangos hyn:

• Bu i’r rhan fwyaf o atgyfeiriadau gael eu gwneud gan yr heddlu neu’r gwasanaethau ar gyfer plant. Fodd bynnag, roedd rhai pobl ifanc nad oedd y gwasanaethau yn ymwybodol ohonynt cyn y cyfnod dan sylw.

• Roedd ychydig o dan hanner y bobl ifanc mewn rhyw fath o addysg, gan gynnwys ysgol brif ffrwd, coleg, unedau cyfeirio disgyblion neu ddarpariaeth arall.

• Ar gyfartaledd, roedd dwy asiantaeth yn gweithio gyda phobl ifanc yn ogystal â’r Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar ar gyfer Troseddau Cyfundrefnol Difrifol (SOCEIS).
• Adroddodd partneriaid y prosiect fod SOCEIS yn ychwanegiad gwerthfawr at y ddarpariaeth bresennol o wasanaethau.

• Er gwaethaf yr heriau tybiedig ynghylch ymgysylltu â phobl ifanc, barnwyd bod SOCEIS yn llwyddo i ymgysylltu â’r rhan fwyaf o bobl ifanc. Cefnogwyd hyn trwy gynnwys staff â phrofiad bywyd o droseddu pan yn ifanc (‘mentoriaid sy’n deall y profiad’).

• Un o gryfderau allweddol SOCEIS oedd ei staff hynod fedrus a oedd yn gweithio’n arbennig o effeithiol gyda phobl ifanc.

• Cafodd yr ymgysylltu â SOCEIS ei wella gan faint o amser yr oedd staff yn gallu ei dreulio gyda phobl ifanc. Hwyluswyd hyn gan lwythi bach o achosion a gwaith achos penagored.

• Drwy edrych ar bobl ifanc o bersbectif diogelu, yn hytrach na throseddu, rhoddwyd rhaglen gymorth i bobl ifanc gyda’r nod o fynd i’r afael â’u hanghenion sylfaenol yn hytrach na chanolbwyntio ar eu hymddygiad o ran troseddu

• Llwyddodd y SOCEIS i ymgysylltu â phobl ifanc a oedd yn amharod i weithio gydag ymarferwyr neu’r rhai nad oeddent yn ystyried eu bod mewn perygl ac angen cymorth.

• Cafwyd arwyddion cynnar bod SOCEIS wedi llwyddo i gefnogi pobl ifanc i ganfod eu ffordd i ffwrdd oddi wrth droseddu difrifol a chyfundrefnol, i gyfeiriad addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.

Arall

Mae cam nesaf y gwerthusiad yn cynnwys cyfweliadau â phobl ifanc a rhieni ynghyd â dadansoddi ffeiliau achos. Y gobaith yw cyhoeddi’r adroddiad terfynol yng Ngwanwyn 2023.


Person Arweiniol

Prif Ymchwilydd Dr Nina Maxwell

Staff Academaidd

Staff AcademaiddJonathan Ablitt
Staff AcademaiddZoe Bezeczky
Cyswllt YmchwilDr Verity Bennett

Gwybodaeth Cysylltiedig 

Cyllidwyr Action for Children
Dogfennau Cysylltiedig Adolygiad CCE