Archwilio polisi, arferion a chanlyniadau sy’n ymwneud ag elw a marchnata gofal maeth a gofal preswyl i blant.

Rhwydwaith anffurfiol o academyddion ydym ni sy’n cynnal ymchwil i fater gwneud elw a darparu gofal maeth a gofal preswyl i blant. Rydym wedi ein lleoli yng Nghymru, Norwy, Denmarc, Sweden a’r Ffindir.

Trosolwg

Mae gofal plant y tu allan i’r cartref ledled y DU a’r rhanbarth Nordig wedi dod yn fwyfwy dibynnol ar ddarparwyr preifat sy’n gwneud elw, yn enwedig o fewn gwasanaethau gofal maeth a gofal preswyl. Mae’r newid hwn wedi ysgogi dadl gynyddol ynghylch costau, ansawdd, atebolrwydd a chynaliadwyedd darpariaeth gofal, yn ogystal â chwestiynau ehangach ynghylch a ddylid cynhyrchu elw o wasanaethau a ddyluniwyd i gefnogi plant a phobl ifanc sy’n wynebu llawer o rwystrau cymdeithasol. Mae pryderon eraill yn cynnwys clystyru darpariaeth mewn ardaloedd tai rhatach, sy’n golygu bod rhai plant yn cael gofal ymhell o gartref ac, mewn rhai gwledydd,weithgareddau troseddol fel gwyngalchu arian.

Ar y llaw arall, byddai rhai’n dadlau bod angen rhywfaint o ddarpariaeth er elw i sicrhau digon o ddarpariaeth a gwasanaethau arbenigol.

Mae llywodraethau wedi ymateb mewn amrywiaeth o ffyrdd i’r ffenomen hon. Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno deddfwriaeth i gael gwared ar elw o ofal plant sy’n derbyn gofal. Trwy Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025, mae Cymru yn symud tuag at system lle mae gofal yn cael ei ddarparu gan sefydliadau cyhoeddus, elusennol a dielw. Mae hyn yn un o’r diwygiadau mwyaf uchelgeisiol i ofal cymdeithasol plant yn rhyngwladol. Mae gwledydd eraill yn cynyddu rheoleiddio, yn pasio deddfwriaeth i gyfyngu ar y gallu i wneud elw gormodol neu’n darparu cyllid i gynhyrchu mwy o ddarpariaeth dielw.

Mae tystiolaeth gyfyngedig am effaith marchnata ar ansawdd, costau a chanlyniadau i blant, teuluoedd a systemau gofal.

Nod y rhwydwaith yw cysylltu ymchwilwyr rhyngwladol sy’n gweithio yn y maes hwn i rannu arbenigedd a datblygu ymchwil gymharol. Rydym wedi dechrau fel grŵp Nordig-DU, oherwydd bod mater marchnata a gwneud elw yn ddadl bolisi a chyhoeddus gyfredol yn y ddau ranbarth.

Bwriad y rhwydwaith yw cefnogi gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth a chyfrannu at ddadleuon rhyngwladol ynghylch trefniadaeth gofal cymdeithasol plant yn y dyfodol.

Rydym yn agored i gynnwys eraill yn y rhwydwaith hwn. Mae’r dudalen we hon yn rhoi cyfle i ymchwilwyr ac eraill gysylltu ar gyfer gweithgareddau ymchwil. Anfonwch e-bost atom ar BeyondProfitCASCADE@cardiff.ac.uk os ydych chi’n weithgar yn y maes ymchwil hwn ac os hoffech chi ofyn i’ch ymchwil gael ei chysylltu trwy ddolen ar y dudalen we hon. Os oes gennych ddiddordeb mewn prosiect neu gyhoeddiad penodol, cysylltwch â’r awdur yn uniongyrchol.

DS: Rhwydwaith heb gyllid ydym ni, felly ni allwn gynnal rhestr bostio weithredol nac ymateb i ymholiadau cyffredinol am y maes polisi hwn.

Gweithgareddau/dulliau

1. Dechreuwyd y rhwydwaith yn 2026, a gweithgaredd cyntaf yr aelodau au sefydlu yw cynnal dadansoddiad cymharol o ymatebion polisi i wneud elw yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Denmarc, Norwy, y Ffindir a Sweden.

2. Mae’r rhwydwaith yn cael ei gynnal gan CASCADE, ac mae aelodau rhwydwaith CASCADE hefyd yn arwain y prosiect Y Tu Hwnt i Elw – CASCADE.

3. Mae pob un o’n hymchwilwyr rhwydwaith yn cynnal ymchwil yn y maes hwn ac mae’r rhan fwyaf wedi cyhoeddi erthyglau ac adroddiadau gwyddonol am y pwnc hwn. Gweler eu tudalennau gwe unigol am fwy o fanylion (dolenni isod).

Canfyddiadau

Chwiliwch am ein hallbynnau rhwydwaith cyntaf yma.

Arall

Os ydych chi’n cynnal ymchwil yn y maes hwn mewn unrhyw gyd-destun Prydeinig neu Nordig ar hyn o bryd ac yr hoffech i ni gysylltu eich enw â’r wefan hon, anfonwch e-bost at: BeyondProfitCASCADE@cardiff.ac.uk gyda chrynodeb o’ch gweithgaredd ymchwil am y pwnc hwn.


Aelodau Sylfaenol

SylfaenyddAnders Malthe Bach-Mortensen, Roskilde School of Governance
SylfaenyddPia Eiksson, Helsinki Practice Research Centre
SylfaenyddEvelina Fridell Lif, Stockholm University
SylfaenyddTonje Gundersson, Oslomet
SylfaenyddSally Holland, CASCADE
SylfaenyddLouise Roberts, CASCADE
SylfaenyddLorna Stabler, CASCADE

Ysgolion CysylltiedigSOSSS
Partneriaid cysylltiedig
CyllidwyrCASCADE infrastructure is supported by Health and Care Research Wales
Cyhoeddiadau
cysylltiedig
Dolenni cysylltiedighttps://cascadewales.org/research/beyond-profit/
Dogfennau
cysylltiedig