Mae llawer o wasanaethau arbenigol ar gael a all gynnig cefnogaeth i chi a’ch helpu i deimlo’n fwy hyderus. Gall y gweithwyr proffesiynol hyn eich helpu i oresgyn unrhyw heriau y byddwch chi’n eu hwynebu. Mae cwnsela, therapi, mentora a hyfforddi ymhlith y gwasanaethau a all eich helpu i gyflawni eich nodau a gwella’ch llesiant. Os ydych chi’n cael trafferth gydag unrhyw agwedd ar eich bywyd, peidiwch ag oedi cyn gofyn am gymorth.



Voices from Care CYMRU

Diben Voices From Care Cymru yw gwella bywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru sydd wedi bod dan ofal, hyn drwy fod yn llais annibynnol ar gyfer y gymuned gofal.

Mae Voices From Care Cymru yn cynnig gwasanaeth Lles ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o fod dan ofal (sydd wedi bod neu sydd dan ofal yng Nghymru ar hyn o bryd).

Yn gyffredinol, cymorth unigol mae eu Tîm Lles yn ei roi, a hynny ar ystod eang o broblemau, materion a phryderon sy’n effeithio ar lawer o bobl ifanc sydd wedi bod dan ofal. Mae ganddyn nhw ddau weithiwr yn eu Tîm Lles, un yn seiliedig yng Ngogledd Cymru ac un yn Ne Cymru.

BEAT – anhwylder bwyta

Mae Beat yn gweithio i roi diwedd ar y boen a’r dioddefaint y mae anhwylderau bwyta yn eu hachosi.

Gallwch gysylltu â nhw ar eu llinell gymorth rhwng 3pm ac 8pm, 365 diwrnod y flwyddyn, neu ar-lein. Maen nhw’n gwrando ac yn ceisio’ch helpu chi i ddeall y salwch, gan roi cymorth ar gyfer cymryd camau cadarnhaol tuag at adferiad.

Maen nhw hefyd yn cefnogi teulu a ffrindiau, gan roi sgiliau a chyngor hanfodol iddyn nhw, fel y gallan nhw helpu eu hanwyliaid i wella gan ofalu am eu hiechyd meddwl eu hunain hefyd.