Yn ddiweddar, cwrddon ni â phobl ifanc sy’n mynychu grwpiau 4C yn Wrecsam ac Abertawe. Cynlluniwyd y sesiynau hyn i’n helpu i ddeall beth mae pobl ifanc yn meddwl y mae angen i ofalwyr ei wybod er mwyn bod yn ofalwyr.
Gweithiodd pobl ifanc gyda’i gilydd mewn grwpiau bach i feddwl am enghreifftiau o ba briodoleddau sy’n gwneud gofalwr gwych. Llwyddon nhw greu amlinelliad o berson oedd yn cynrychioli’r priodoleddau hyn; ar y pen roeddent yn ysgrifennu am ba wybodaeth sydd ei hangen ar ofalwr, ar y galon ysgrifennon nhw am y math o bersonoliaeth y dylai gofalwr ei chael, ac am yr hyn y dylai gofalwr da ei wneud ar y dwylo.
Teimlai pobl ifanc y dylai gofalwyr wybod beth yn union y mae person ifanc wedi bod yn delio ag ef ynghyd â’u hoff a’u cas bethau a sut i ofalu a chyfathrebu â phobl ifanc. Roeddent yn teimlo y dylai gofalwyr fod yn garedig, yn hapus ac yn ysgogol. O ran yr hyn y dylai gofalwyr ei wneud, roedd ystod eang o awgrymiadau gan gynnwys gallu eu gyrru nhw i lefydd, coginio prydau iach iddynt a rhoi’r person ifanc ar frig eu rhestr flaenoriaethau. Roedd yn yn arbennig o deimladwy pan ddywedodd person ifanc mai “Y peth gwaethaf am fod mewn gofal yw cael dy farnu.”
Ar gyfer yr ail weithgaredd, gwnaethom ofyn i bobl ifanc ddychmygu eu bod yn mynd i gyfweld â rhywun oedd â diddordeb mewn gweithio fel gofalwr. Gofynnwyd beth ddylai rhywun gynnwys yn eu cais, pa fath o hyfforddiant y gallai fod angen iddo ei gael ac a oedd angen iddynt fod wedi’u cofrestru a beth oedd ystyr hynny yn eu barn nhw.
Roedd cyfranogwyr eisiau sicrhau y byddai gan unrhyw un sydd eisiau bod yn ofalwr y sgiliau i ofalu amdanynt a bod yn flaenoriaeth iddynt mewn bywyd. Roeddent hefyd yn teimlo y dylent fod wedi’u hyfforddi i goginio, gyrru, gwneud cymorth cyntaf a bod yn gymwys i helpu gyda gwaith cartref.
Roeddent yn teimlo y byddai’r ffaith fod gofalwyr yn cael eu cofrestru yn golygu y byddai’n cadw pobl ifanc yn ddiogel, yn cael yr hyfforddiant priodol i weithio gyda phlant a byddai cofnod am yr unigolyn hwnnw i sicrhau mai nhw oedd pwy oeddent yn dweud.
Roeddem yn deall nad oedd hi’n hawdd i’r bobl ifanc, yn enwedig y cyfranogwyr iau, drafod rhai o’r cysyniadau hyn. Ar ôl rhannu eu barn, gwnaethon nhw fwynhau cael byrbrydau a bowlio.
Ar y cyfan, roedd gweithio gyda’r bobl ifanc yn brofiad buddiol ac roedd hi’n hyfryd eu gweld yn gweithio gyda’i gilydd wrth ganolbwyntio ar yr hyn sy’n gwneud gofalwr da. Mae eu cyfraniad wedi caniatáu i ni ail-fframio’r cwestiynau yn ein canllaw cyfweliad fel y gallwn sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed. Rydym yn gobeithio dod yn ôl at y grwpiau hyn mewn ychydig fisoedd, fel y gallwn rannu canfyddiadau cam cyntaf y prosiect ymchwil a chydnabod eu cyfraniad. Efallai y byddwn hefyd yn gofyn am eu cymorth pan fyddwn yn symud ymlaen i ran arall o’r prosiect i sicrhau unwaith eto bod y cwestiynau a ofynnwn bob amser yn canolbwyntio ar y plentyn.