Yn Cascade, mae ein hymrwymiad i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i blant a theuluoedd yn ein sbarduno ymlaen.
Rydym yn gwybod bod angen i ni weithio’n agos gyda phlant, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr a phobl eraill sydd â phrofiad uniongyrchol o wasanaethau er mwyn i’n hymchwil gael yr effaith fwyaf a gwneud yn siŵr ein bod yn mynd i’r afael â’r materion sy’n wirioneddol bwysig iddynt.
Mae ein tîm Ymgysylltu a Chynnwys y Cyhoedd yn ceisio cynnwys aelodau’r cyhoedd ym mhob cam o’r cylch ymchwil. Fel rhan o hyn, mae gennym bedwar prif ddull gweithredu.

Bwrdd Cynnwys y Cyhoedd

Lleisiau CASCADE

Grŵp Cynghori Ymchwil Rhieni

Gwaith Prosiect
Ein Cylchlythyrau
I gael crynodeb o’r gweithgareddau a gyflawnwyd gan ein tîm ymgysylltu, gweler ein cylchlythyrau
Cysylltu â ni
I holi am ein grwpiau, costau a gwasanaethau fel aelod o’r cyhoedd, elusen neu ymchwilydd, cysylltwch â: Vaughanr5@caerdydd.ac.uk neu Lambertpw@caerdydd.ac.uk

Mae ein gwaith cynnwys yn seiliedig ar y diffiniadau, yr egwyddorion a’r canllawiau yn y Safonau Cynnwys y Cyhoedd a ddatblygwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon:
https://healthandcareresearchwales.org/public-help-research/uk-standards-public-involvement