Pwy ydym ni

Cydweithrediad.  Grŵp o bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal ac sy’n cynghori ar brosiectau ymchwil o’r cam dylunio i ledaenu’r ymchwil. Mae hyfforddiant mewn dulliau ymchwil a hwyluso grŵp yn cael eu cynnal gan ymchwilwyr CASCADE. Cefnogir y grŵp gan Lleisiau mewn Gofal. Mae’r grŵp yn cwrdd bob deufis. Rhoddodd y grŵp gyngor i ymchwilwyr o brifysgolion yng Nghymru a Gogledd Iwerddon a’r trydydd sector ar bynciau iechyd a gofal cymdeithasol.

Gallwch wylio fideo fer o’r grŵp, a gynhyrchwyd gan Gyngor Gofal Cymru.

A yw Lleisiau CASCADE yn gwneud gwahaniaeth?

Mae yna nifer o wahanol ffyrdd rydyn ni wedi cyfrannu at brosiectau ymchwil, gan gynnig ein profiad a’n harbenigedd ar:

  • Sut i wella llythyrau gwybodaeth i blant, pobl ifanc
  • Dulliau a awgrymir ar gyfer casglu data
  • Y mathau o gwestiynau y dylai ymchwilwyr eu gofyn
  • Materion moesegol mewn prosiectau ymchwil
  • Gosod cwestiynau ymchwil
  • Trafod themâu ymchwil
  • Datblygu deunyddiau lledaenu creadigol gan gynnwys posteri, fideos a blogiau

Mae aelodau Lleisiau CASCADE hefyd wedi cael cyfleoedd i ddod yn ymchwilwyr cymheiriaid.

Mewn astudiaeth CASCADE ar Addysg a Phlant o dan Ofal (LACE) a ariennir gan Lywodraeth Cymru, roedd angen ymchwilwyr cymheiriaid i hwyluso grwpiau ffocws gyda phobl sy’n gadael gofal. Gwnaeth dau aelod o’r grŵp gais am y cyfle a derbyn hyfforddiant ychwanegol ar ddulliau ymchwil, moeseg, cyfrinachedd a hwyluso grŵp ffocws. Fe wnaethant gynnal chwe grŵp ffocws rhyngddynt a chynorthwyo i ddatblygu cwestiynau’r grwpiau ffocws.

Enillodd Lleisiau CASCADE Wobr Cynnwys y Cyhoedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2017 am ymchwil LACE. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Bydd Lleisiau CASCADE yn cael cyfleoedd eraill i ymchwilwyr cymheiriaid yn y dyfodol.

Mae trawiad y grwp yn cael ei ddisgrifio mewn pennod sydd ar ddod yn ‘The Culture of Care and the everyday Lives of Children and Young People’ gan Staples et al 2019.

Mae trawiad y gwrp ar un astudiaeth sydd yn cael ei disgrifio yn y llyfr: Doing Qualitative Research in Social Work, by Ian Shaw and Sally Holland (Sage, 2014, p.91)

Staples, E.et al. 2019. Enabling care-experienced young people’s participation in research: CASCADE Voices. In: Mannay, D., Rees, A. and Roberts, L. eds. ‘Children and Young People ‘Looked After’? Education, Intervention and the Everyday Culture of Care in Wales.’ Cardiff: University of Wales Press 

Sesiynau Diweddar 

  • Adborthi ar cynnigiau newydd cyllid CASCADE 
  • Cyfrannu i lledaenu defnyddiau ar gyfer ‘ Pobl Ifanc yn Gadael Gofal, Ymarferwyr a Phandemig y Coronafeirws (COVID 19): Profiadau, Cefnogaeth, a Gwersi ar gyfer y Dyfodol’ Digwyddiad ExChange; tudalen prosiect

Cysylltwch a’r grwp

Os ydych chi’n berson ifanc â phrofiad o ofal neu’n cefnogi un a hoffai ymuno â’r grŵp, cysylltwch christopher@vfcc.org.uk neu ffioniwch 02920 451431

Os ydych chi’n ymchwilydd a hoffech ofyn i’r grŵp am gyngor cysylltwch a Cascade or phone 02920875142

Cewch hyd i ni ar Twitter:  @VoicesFromCare a @CASCADEresearch

Voices from Care Cymru Vimeo