Mae’r rhaglen meithrin gallu ymchwil yn rhaglen dair blynedd newydd gyffrous sy’n cael ei hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (HCRW).   Nodau’r rhaglen yw: annog pobl i fynd i faes ymchwil academaidd ar bob agwedd ar ofal cymdeithasol; a chefnogi’r rhai sydd eisoes yn gweithio yn y maes i ddatblygu eu gyrfaoedd.  

Hoffech chi wneud PhD neu ddoethuriaeth broffesiynol? Llwybr at PhD 

Wedi’i bwriadu ar gyfer y rhai sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol neu sydd â phrofiad bywyd o wasanaethau (naill ai gwasanaethau oedolion neu blant a theuluoedd) sy’n ystyried ymgymryd â doethuriaeth neu ddoethuriaeth broffesiynol, mae’r rhaglen hon yn darparu cefnogaeth i gymryd eich syniadau ymchwil a’u datblygu’n gymhwysiad ar gyfer astudiaeth ddoethurol.

Gan weithio mewn grwpiau bach fel rhan o Set Dysgu Gweithredol (ALS) byddwch yn gweithio gyda’ch gilydd i ddatblygu’ch syniad, creu set o gwestiynau ymchwil ar sail y syniad hwnnw ac archwilio’r dulliau methodolegol posibl y gallech eu defnyddio i ateb y cwestiynau hynny.

Mae’r rhaglen yn cynnwys sesiynau rheolaidd dros gyfnod o dri mis a bydd yn cael ei chynnal ddwywaith y flwyddyn 

Hoffech chi gael cefnogaeth i ddatblygu eich cynnig grant cyntaf? Llwybr at fod yn Brif Ymchwilydd 

Mae’r rhaglen hon wedi’i bwriadu ar gyfer Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar (ECRs) y dyfarnwyd eu PhD iddynt mewn maes ymchwil sy’n canolbwyntio ar ofal cymdeithasol ac sydd bellach yn ystyried cymryd y cam nesaf a gwneud cais am eu cyllid grant cyntaf fel Prif Ymchwilydd. 

Gan ddefnyddio dull Set Dysgu Gweithredol, bydd cyfranogwyr yn datblygu eu syniadau ymchwil ac yn cefnogi ei gilydd trwy’r broses o wneud cais am y grant cyntaf hwnnw.  Bydd y rhaglen hefyd yn cyfeirio cyfranogwyr at ffynonellau cymorth a chyfleoedd cyllido eraill.

Mae’r rhaglen yn cynnwys sesiynau rheolaidd dros gyfnod o dri mis a bydd yn cael ei chynnal ddwywaith y flwyddyn. Mae’r rhaglen yn agored i ECRs mewn sefydliadau academaidd yng Nghymru neu mewn rolau ymchwil mewn sefydliadau trydydd sector.  

Hoffech chi ddod yn arweinydd ymchwil? Llwybr at fod yn Athro

Ar gyfer ymchwilwyr canol gyrfa sydd wedi gweithio ym maes ymchwil gofal cymdeithasol am nifer o flynyddoedd (5 mlynedd neu fwy fel arfer).  Bydd y rhaglen yn cysylltu cyfranogwyr â mentor sy’n uwch academydd ym maes gofal cymdeithasol.   Bydd cyfarfodydd rheolaidd dros gyfnod o chwe mis yn rhoi cyfle i gyfranogwyr feddwl am eu nodau gyrfa tymor hwy – p’un a yw hynny’n golygu symud ymlaen i fod yn Athro, neu bod gennych chi bethau eraill rydych chi am eu cyflawni – a throi’r nodau hynny yn gynllun.

Mae’r rhaglen yn agored i ymchwilwyr mewn sefydliadau academaidd neu mewn rolau ymchwil mewn sefydliadau trydydd sector yng Nghymru.   

Y Gyfres Dosbarthiadau Meistr Ymchwil

Bydd y Gyfres Dosbarthiadau Meistr Ymchwil yn sail ar gyfer y rhaglenni uchod.  Mae’r dosbarthiadau meistr ymchwil yn gyfres barhaus o gyflwyniadau bob yn ail fis gan arbenigwyr ar ddefnyddio dulliau ymchwil penodol.  Gan ddefnyddio enghreifftiau ymarferol, bydd y sesiynau’n darparu nid yn unig drosolwg o ddull methodolegol penodol, ond hefyd yn amlinellu sut gellir ei gymhwyso yng nghyd-destun ymchwil gofal cymdeithasol.