Mae CASCADE yn falch iawn o fod wedi cael eu comisiynu gan Uned Atal Trais Cymru i gynnal dau adolygiad o dystiolaeth: mapio’r ffactorau risg a’r ymyriadau ar gyfer atal trais ymhlith pobl ifanc, a rhoi dulliau cyd-gynhyrchu ar waith mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Mae’r adroddiadau hyn yn amlinellu dulliau ac ymyriadau ar sail tystiolaeth ar gyfer gweithio gyda phobl ifanc ac atal trais ieuenctid. Mae canfyddiadau wedi helpu i lywio blaenoriaethau’r Uned Atal Trais ar gyfer 2021/22.
Fe wnaeth yr adroddiad am atal trais ieuenctid fabwysiadu’r diffiniad o drais ieuenctid fel trais cymunedol a/neu mewn man cyhoeddus a gyflawnir gan bobl ifanc o dan 25 oed. Roedd hyn yn cynnwys trais gan bobl ifanc ar bobl ifanc, bwlio a thrais gan gangiau ac achosion o bobl ifanc yn dioddef trais, yn troseddu neu’n dystion i drais. Mae’r adroddiad yn dechrau gyda throsolwg o’r dystiolaeth ymchwil sy’n ymwneud â’r risg a’r ffactorau amddiffynnol i bobl ifanc. Ceir tystiolaeth wedi hynny o ymarfer systematig sy’n mapio ac yn asesu’r hyn sydd ar y gorwel o ran yr ymyriadau sy’n bodoli eisoes a’r rhai sy’n dechrau ennill eu plwyf ar gyfer atal trais ieuenctid. Amlygodd y canfyddiadau bod angen dull datblygiadol o atal trais ieuenctid sy’n cynnwys gweithgareddau atal sylfaenol, eilaidd a thrydyddol ar lefel wedi’i thargedu ac yn gyffredinol. Mae’r canfyddiadau hyn yn ategu’r angen am ddull cydweithredol amlasiantaethol i sicrhau bod pobl ifanc yn cael y cyfleoedd ar yr adeg iawn naill ai i ddargyfeirio’n ddiogel neu eu hatal rhag bod yn gysylltiedig â rhagor o drais.
Fe wnaeth yr adroddiad ar weithredu arferion cyd-gynhyrchiol amlygu’r manteision uniongyrchol ac anuniongyrchol sy’n deillio o ymgysylltu â phobl ifanc a’u gwerthfawrogi fel asedau a chrewyr gwybodaeth. Nodwyd pum lefel o ymarfer cyd-gynhyrchiol: gwrando ar lais y plentyn, cefnogi’r plentyn i fynegi ei farn, ystyried barn y plentyn, cynnwys y plentyn wrth wneud penderfyniadau, a rhannu pŵer a chyfrifoldeb dros wneud penderfyniadau. Hwyluswyd hyn gan eglurder ynghylch pwrpas a nodau cyd-gynhyrchu, gosod disgwyliadau realistig a sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael adborth ynghylch allbynnau a chanlyniadau. Datgelodd y dystiolaeth y gall cyd-gynhyrchu arwain at wasanaethau gwell a mwy effeithlon gydag ymarferwyr sydd â mwy o wybodaeth a dealltwriaeth o fywydau ac anghenion plant.