Heddiw, am 10pm ar Channel 4, bydd adolygiad o ymchwil gan Julie Doughty, Nina Maxwell, a Tom Slater o Brifysgol Caerdydd yn cael ei drafod ar Dispatches ar Channel 4.

Bydd y rhaglen yn ystyried system y llysoedd teulu ac yn datgelu sut y gall llysoedd orchymyn i’r heddlu symud plant nad ydyn nhw mewn perygl o gartrefi cariadlon.

Canfu’r adolygiad o ymchwil fod “ychydig o werthusiadau safon uchel o ymyriadau neu’r un ohonyn nhw… mewn perthynas â dieithrio plentyn oddi wrth riant” wrth ystyried gorchmynion y bydd llysoedd teulu yn eu gwneud i symud plant o’r naill riant i’r llall. Ni chafwyd tystiolaeth gadarn i gefnogi effeithiolrwydd ymyriadau megis symud gorfodol.

Mae’r adroddiad llawn ar gael ar-lein: Doughty, J., Maxwell, N. and Slater, T. (2018).  Adolygiad o ymchwil a chyfraith achosion ar ddieithrio plentyn oddi wrth riant. Adolygiad Prosiect Cafcass

Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen ar gael gan Channel 4.