Mae Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ac Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd, gyda chefnogaeth Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru (DTP Cymru) y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), yn gwahodd ceisiadau am astudiaethau PhD gyda’r posibilrwydd o ennill un o Ysgoloriaethau DTP yr ESRC sydd wedi’i hariannu’n llawn, i ddechrau ym mis Hydref 2022 ym maes gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol.
Croesewir ceisiadau erbyn 4 Chwefror 2022 am hanner dydd.
Mae dau fath o ysgoloriaeth PhD ar gael: Ysgoloriaethau cyffredinol pan wahoddir ymgeiswyr i gyflwyno eu cynigion eu hunain ac ysgoloriaethau cydweithredu, sy’n cynnwys sefydliad sy’n cydweithredu ac sydd y tu allan i’r Brifysgol at ddibenion prosiectau ymchwil penodol. Ymhlith y prosiectau cydweithredol sydd ar gael ar gyfer mynediad ym mis Hydref 2022 ac sy’n berthnasol i ofal cymdeithasol y mae:
- “Trais yn erbyn menywod a merched mudol na allant gyrchu cronfeydd cyhoeddus yng Nghymru”
- “Cydweithredu rhwng asiantaethau i gefnogi plant ag anghenion iechyd meddwl”
- “Astudio’r defnydd o Ddulliau Atal Cenhedlu Gwrthdroadwy Hirdymor (LARC) a’r ddarpariaeth o’r rhain ymhlith grwpiau ‘agored i niwed’: astudiaeth dulliau cymysg”
- Adnabod emosiynau mewn plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru: Astudiaeth Ymchwilio ac Ymyrryd