Mae ein hadroddiad newydd yn gwerthuso Gwasanaeth Dulliau Adferol i Gyn-filwyr a’u Teuluoedd (RAVFS).


Mae’r gwasanaeth hwn, a ddarperir gan TGP Cymru, yn ddull newydd sy’n hwyluso ymyriadau teulu cyfan i gyn-filwyr a’u teuluoedd. Mae gwerthusiad cynnar wedi dangos y gall RAVFS helpu i wella’r berthynas rhwng cyn-filwyr sy’n byw gydag anhwylder iechyd meddwl sy’n gysylltiedig â gwasanaeth a’u teuluoedd, gan ddefnyddio fframwaith adferol.
Yn dilyn llwyddiant y gwasanaeth ar raddfa fach, mae’r ymchwilwyr a’r sefydliadau dan sylw yn galw am gyflwyno’r gwasanaeth i bob Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru sy’n darparu cymorth iechyd meddwl i gyn-filwyr, ynghyd ag ymchwil i brofi’r model RAVFS ymhellach ar raddfa fwy.


Mae ein partneriaid yn Ymddiriedolaeth Forces in Mind hefyd wedi rhyddhau mwy o wybodaeth am y prosiect hwn

Meddai Dr Annie Williams, Cymrawd Ymchwil:
“Mae CASCADE wedi ymrwymo i gefnogi lles a diogelwch teuluoedd a phlant drwy fodelau gofal cydweithredol sy’n seiliedig ar gryfderau ac sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd. Mae CASCADE yn falch iawn o fod wedi gallu helpu RAVFS i ymestyn y math hwn o gymorth i deuluoedd a chyn-filwyr milwrol yr effeithir arnynt yn negyddol gan heriau iechyd meddwl. Mae darparu a derbyn y gwasanaeth yn gadarnhaol yn ddatblygiad cyffrous sy’n galw am archwilio ymhellach ei ddefnydd mewn lleoliadau milwrol ehangach.”