Mae Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ac Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd, gyda chefnogaeth Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru (DTP Cymru) y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), yn gwahodd ceisiadau am astudiaethau PhD gyda’r posibilrwydd o ennill un o   Ysgoloriaethau DTP yr ESRC sydd wedi’i hariannu’n llawn, i ddechrau ym mis Hydref 2022 ym maes gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol.

Croesewir ceisiadau erbyn 4 Chwefror 2022 am hanner dydd.

Mae dau fath o ysgoloriaeth PhD ar gael: Ysgoloriaethau cyffredinol pan wahoddir ymgeiswyr i gyflwyno eu cynigion eu hunain ac ysgoloriaethau cydweithredu, sy’n cynnwys sefydliad sy’n cydweithredu ac sydd y tu allan i’r Brifysgol at ddibenion prosiectau ymchwil penodol. Ymhlith y prosiectau cydweithredol sydd ar gael ar gyfer mynediad ym mis Hydref 2022 ac sy’n berthnasol i ofal cymdeithasol y mae: