Fel rhan obrosiect ymchwil CASCADE Dr Nina Maxwell, gwahoddwyd saith ymchwilydd cymheiriaid o Peer Action Collective (PAC) o Academi Cyfryngau Cymru (MAC) i ‘sbarc|spark’. Nod y diwrnod oedd dysgu mwy am eu hymchwil atal trais ieuenctid ac archwilio ffyrdd y gallwn gydweithio.
Mae PAC yn brosiect ymchwil cyffrous sydd â’r nod o ymgysylltu, ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc o Wrecsam, Casnewydd, Caerdydd ac Abertawe i drafodaethau am y gymdeithas a’r cymunedau y maent yn byw ynddynt. Mae’r prosiect yn cynnwys cydlynydd prosiect a 12 o ymchwilwyr cymheiriaid sydd â phrofiadau o’r system cyfiawnder troseddol, yn derbyn gofal neu o unrhyw gymuned a orgynrychiolir yn y system cyfiawnder troseddol.
Dechreuodd y diwrnod gyda gêm gyflym a thaith, yn canolbwyntio ar adeilad sbarc|spark newydd Prifysgol Caerdydd. Yn debyg iawn i PAC, cynlluniwyd yr adeilad hwn gyda’r genhadaeth i ddatblygu atebion arloesol i broblemau cymdeithasol trwy weithgarwch ymchwil cydweithredol.
Dilynwyd y daith gan gyflwyniad i ymchwil Nina ar gamfanteisio’n droseddol ar blant a sesiwn ryngweithiol i archwilio sut y dylai rhieni ac ymarferwyr ymgysylltu â phobl ifanc. Arweiniodd hyn at ddatblygu’r Siarter Ieuenctid.
“Fe wnes i wir fwynhau cael y cyfle i eistedd i lawr gydag ymarferwyr a helpu i ddatblygu’r Siarter Ieuenctid. Edrychon ni ar wahanol bynciau ac yna mynd i mewn i wahanol resymau dros gael rhai pethau i bobl ifanc. Rhoddodd y Siarter Ieuenctid wir bŵer i’r bobl ifanc, ac roeddem yn teimlo ein bod wedi’n grymuso ganddi. Rwy’n teimlo bod cael y cyfle hwn wedi helpu i ddangos pethau o safbwynt person ifanc ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at barhau â’n gwaith gyda CASCADE”
Molly, 20, Ymchwilydd Cymheiriaid
Yn y prynhawn, rhoddodd PAC drosolwg o’u hymchwil i staff uwch a phrofiadol o’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol. Yna fe wnaethom rannu’n grwpiau bach fel bod yr ymchwilwyr cymheiriaid yn cael y cyfle i siarad â staff a dysgu o’u profiadau o wneud ymchwil a chael effaith ar bolisi ac ymarfer yng Nghymru.
“Cafodd y cyfle i ymweld ag ymchwilwyr CASCADE yn yr adeilad ‘sparc|spark’ effaith fawr ar y ffordd yr ydym ni, fel ymchwilwyr cymheiriaid, yn cynnal ein hymchwil ein hunain ac yn sicrhau bod gan ein hymchwil y cyrhaeddiad sydd ei angen arnom, i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Roeddem yn gallu cael sgyrsiau defnyddiol ag ymchwilwyr sefydledig a phrofiadol, a oedd yn gallu rhoi rhywfaint o gyngor i ni ar gynnal ein hymchwil ein hunain, yn ogystal â’r heriau y maent yn eu hwynebu fel ymchwilwyr. Roedd hefyd yn ddefnyddiol cael cyngor ganddynt o ran hyrwyddo canfyddiadau ein hymchwil i wleidyddion a’r rhai sydd mewn grym, gan mai’r bobl hynny sydd â’r gallu i wneud newid ar unwaith a allai fod o fudd i bobl ifanc.”
Callum, 24, Ymchwilydd Cymheiriaid
Roedd y diwrnod yn llwyddiant ysgubol, yn rhannol oherwydd y danteithion blasus a’r sglodion amser cinio… Ond, yn bwysicach fyth, cawsom ein rhyfeddu gan aeddfedrwydd a ffocws tîm PAC.
Cymaint fel y byddwn yn eu gwahodd yn ôl yn fuan…