Yn rhy aml mae’r cyfryngau ac ymchwil yn canolbwyntio ar yr hyn nad yw’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol plant. Rydyn ni eisiau gwneud rhywbeth gwahanol – rydyn ni eisiau darganfod a rhoi cyhoeddusrwydd i’r hyn SYDD YN gweithio. Rydym yn gobeithio y gallwch chi ein helpu ni.

Rydyn ni eisiau clywed gan bobl yn y sector am bethau rydych CHI’n meddwl sy’n gweithio’n dda. Gallai hyn fod yn fentrau lleol, yn ffyrdd newydd o wneud pethau neu’n wasanaeth sy’n wych yn eich barn chi. Os ydych chi’n gwybod am unrhyw beth rydych chi’n meddwl sy’n arfer da yn eich ardal, byddem yn gwerthfawrogi’n fawr pe gallech lenwi ein holiadur 5 munud er mwyn i ni gael gwybod mwy:

Gobeithiwn rannu enghreifftiau o arferion da fel y gall eraill ledled Cymru ddysgu amdanynt. Byddwn yn gwneud hyn drwy rwydwaith ExChange, a gallai gynnwys blogiau, gweminarau, podlediadau neu ddigwyddiadau eraill. Nid ydym yn chwilio am unigolion gwych – er ein bod yn gwybod mai nhw sy’n cadw gwasanaethau i fynd – ond ffyrdd o wneud pethau neu wasanaethau y gallai ardaloedd eraill ddysgu ohonynt. Gobeithiwn ar gyfer rhai gwasanaethau y gallwn eu helpu i werthuso’r hyn y maent yn ei wneud fel y gellir ei rannu yn y pen draw â chynulleidfa fwy fyth.