Mae gwaith dau o ymchwilwyr CASCADE wedi ymddangos yn yr International Journal of Educational and Life Transitions, yn ddiweddar.
Gadael Uned Cyfeirio Disgyblion yng Nghymru: Mae Pobl Ifanc  Phrofiad O Fod Dan Ofal a’u Trawsnewidiadau Wedi Iddynt Droi’n 16 yn brosiect a arweinir gan Dr Phil Smith. Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o fod dan ofal yn fwy tebygol o gael eu gwahardd o’r ysgol o gymharu â chyfoedion nad ydynt wedi cael profiad o fod dan ofal. I’r rhai sydd wedi’u heithrio, mae mwy o risg hefyd o ran peidio a chael addysg, peidio bod â swydd a pheidio a chael hyfforddiant (NEET) unwaith y bydd addysg orfodol yn dod i ben. Mae erthygl Dr Smith yn archwilio’r themâu hyn drwy fyfyrdodau pobl ifanc sydd â phrofiad o fod dan ofal, ynghylch eu teithiau addysgol.
Mwy o Fath o Bontio Pytiog i’r Brifysgol yn hytrach na’r Math o Stori Rwydd y mae Pobl yn ei Disgwyl.” Yr hyn sy’n cael sylw yn Pontio i Addysg Uwch o ran Myfyrwyr â Phrofiad o Fod Dan Ofal, dan arweiniad Dr Hannah Bayfield, yw pam fod pobl ifanc â phrofiad o fod dan ofal yn sylweddol llai tebygol o bontio i addysg uwch. Yn seiliedig ar brofiadau pobl ifanc yng Nghymru, mae’r erthygl hon yn edrych ar ffyrdd o wella cymorth o ran pontio ac o wella arwyddbyst ar gyfer cymorth presennol.