Dydd Mercher 15 Mawrth yw Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2023, digwyddiad blynyddol sy’n tynnu sylw at fywydau plant sy’n gofalu am aelod o’r teulu oherwydd salwch neu anabledd.  Mae i ymchwil rôl allweddol wrth ddod i ddeall effeithiau gofalu ac wrth lywio cymorth, ond mae’r cynydd yn nifer yr achosion yn herio’n dealltwriaeth. 

Wrth gynnal ymchwil ym maes gofalwyr ifanc, mae cael darlun clir o’r niferoedd o ofalwyr ifanc wedi peri trafferth ers degawdau.  Yn grŵp lleiafrifol, nid yw’r setiau data mawr sydd eu hangen i gynhyrchu amcangyfrifon dibynadwy wedi bod ar gael bob amser, ac nid yw dulliau amgen wedi llwyddo i oresgyn problemau’n ymwneud â stigma a phreifatrwydd.  O ganlyniad, cafwyd rhybuddion o ‘boblogaeth gudd’ law yn llaw â’r amcangyfrifon cynnar o lai na 2%, honiad sydd wedi’i feirniadu yn un sydd heb ei brofi. 

Mae hyn bellach yn newid gyda data ar raddfa fawr ar gael fwyfwy, a nifer o ffynonellau yn cynhyrchu amcangyfrifon uwch.  Mae’r ymchwil fwyaf diweddar yn cydnabod ystod o 2-8% ond ymhlith amcangyfrifon unigol ceir 12%, 13% ac 16%.  At hynny, mae’r astudiaethau hyn yn defnyddio diffiniad derbyniol o’r hyn yw gofalwr ifanc, mae ganddynt gwestiwn clir o ran bod yn ofalwr ifanc, maent yn gyfrinachol, ac maent yn casglu’r data gan y plentyn; mae hyn yn rhoi rhagor o hyder i ni yn y canlyniad. 

Fodd bynnag, bu anghydweld ynghylch sut i ddarllen y cynnydd hwn, yn rhannol oherwydd ffocws traddodiadol ymchwil ar y rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu sylweddol.  Mae rhai wedi dadlau bod angen gwasanaethau arnom a all gefnogi’r boblogaeth mwy ei maint hon, tra bod eraill yn pryderu y bydd gan lawer gyfrifoldebau tebyg i dasgau arferol plant o gwmpas y tŷ, heb iddynt fod yn gyfrifoldebau gofalu. 

Mae’r realiti yn debygol o fod rhywle yn y canol, ac ni ddylem gymryd yn ganiataol fod gan bob gofalwr ifanc gyfrifoldebau sylweddol, na chwestiynu a yw eu rôl yn ddigon sylweddol i’w gwneud yn gymwys o gwbl.  Yn hytrach, dylem gydnabod bod astudiaethau bellach yn fwy effeithiol wrth ddod o hyd i’r sawl nad oeddent wedi’u canfod yn flaenorol, gan arwain at grŵp mwy amrywiol na’r hyn a gafwyd mewn ymchwil yn draddodiadol. 

Mae hyn i’w weld yn fwyaf clir os ydym yn ystyried yr amser a dreulir yn gofalu.  Yn yr Astudiaeth Hydredol ar gyfer Pobl Ifanc yn Lloegr, y set ddata a ddefnyddiwyd yn fy astudiaeth Caring Lives, roedd 121 o bobl ifanc yn gofalu am dros 11 awr yr wythnos, a 605 yn gofalu am lai na hynny.  O ymchwilio’n ddyfnach gwelwyd bod 142 yn treulio awr yn gofalu a 161 yn treulio dwy awr yn gofalu. 

Yng nghyd-destun y ffocws ar gyfrifoldebau sylweddol, efallai bod trafodaeth i’w chael ynghylch a yw rhywun yn ofalwr ifanc os yw eu rôl ar lefel is, neu a ddylai cyfrifoldebau o leiaf fod yn fwy na thasgau plant eraill.  Fodd bynnag, lle mae plant yn gofalu am aelod o’r teulu ac, yn bwysicaf oll, pan fo eu cyfrifoldebau yn gysylltiedig ag anabledd y person hwnnw, erys dadl gref eu bod yn cyd-fynd â’r diffiniad o ofalwr ifanc.  Yn hytrach na chanolbwyntio ar ba lefel sydd gyfystyr â bod yn ofalwr, dylem yn hytrach edrych ar feysydd ymchwil eraill sy’n ystyried problemau cymdeithasol yng nghyd-destun y boblogaeth ehangach – mae hyn yn golygu defnyddio dulliau sy’n dadansoddi’r grŵp cyfan i ddeall materion yn well pan ddaw gofalu’n broblemus. 

Y camau nesaf ar gyfer astudiaeth Bywydau Gofalu o’r sbectrwm gofalwyr ifanc


Ysgrifenwyd gan Ed Janes