Nod Rowndiau Schwartz yw gwella lles cymdeithasol ac emosiynol staff drwy eu galluogi i gyd-gyfarfod i adfyfyrio a rhannu straeon am eu profiadau. 

Arwain 

Nod y prosiect yw canfod a all Rowndiau Schwartz helpu i wella lles cymdeithasol ac emosiynol staff gofal cymdeithasol yn Lloegr.

Arolwg 

Gall gweithio ym maes gofal cymdeithasol fod yn foddhaus iawn – ond gall hefyd fod yn straen ac yn heriol yn emosiynol. Ymyriad yw Rowndiau Schwartz a ddefnyddir yn eang mewn lleoliadau gofal iechyd i helpu staff i reoli gofynion cymdeithasol ac emosiynol eu gwaith. Yn y prosiect hwn, rydym ni’n gwerthuso’r defnydd o Rowndiau Schwartz mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol yn Lloegr, i weld a ydyn nhw’n gwneud gwahaniaeth i weithwyr cymdeithasol a staff gofal cymdeithasol eraill. Cyn yr astudiaeth hon, nid oedd Rowndiau Schwartz erioed wedi’u defnyddio mewn gwasanaethau plant yn Lloegr, ac rydym ni nawr yn gweithio gydag un ar ddeg o awdurdodau lleoli i brofi eu heffaith mewn gofal cymdeithasol.

Gweithgareddau/ Dulliau 

Gan weithio gydag un ar ddeg o awdurdodau lleol, rydym ni wedi neilltuo dros 2,000 o aelodau staff ar hap naill ai i fynychu Rowndiau Schwartz nawr neu aros chwe mis cyn mynychu.  Rydym ni’n casglu data ar les cymdeithasol ac emosiynol staff ac yn cymharu lefelau o straen rhwng y rheini sy’n mynychu Rowndiau Schwartz a’r lleill nad ydynt yn gwneud.   Rhennir y prosiect yn ddau gam, gyda chwe awdurdod lleol wedi cwblhau eu cyfranogiad yn yr astudiaeth ddechrau 2020. Disgwylir y bydd pum awdurdod lleol arall yn cymryd rhan yn 2020. 

Canfyddiadau

Mae adroddiad interim wedi’i rannu gyda’r chwe awdurdod lleol yng ngham un a chaiff hwn ei gyhoeddi ar ôl cwblhau’r prosiect, ochr yn ochr ag adroddiad terfynol. Mae’r adborth ansoddol gan staff a fynychodd Rowndiau Schwartz yn gadarnhaol iawn yn gyffredinol.   

Eraill

Mae’r prosiect ar hyn o bryd wedi’i oedi oherwydd pandemig Covid-19. Mae natur Rowndiau Schwartz yn golygu bod angen i grwpiau o bobl gyd-gyfarfod mewn man ffisegol cyffredin felly byddai’n heriol iawn cyflenwi’r ymyriad a chadw pellter cymdeithasol yr un pryd. 


Person sy’n Arwain

Prif YmchwilyddDavid Wilkins

Staff Academaidd

 YmchwilwyrSarah Thompson
YmchwilwyrZoe Bezeczky

Gwybodaeth Cysylltiedig 

Ygsolion Cysylltiedig Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd
Partneriaid Cysylltiedig Point of Care Foundation
Cyllidwyr What Work’s for Children’s Social Care
Cyhoeddiadau CysylltiedigResearch Protocol