Prin yw’r ymchwil am gamfanteisio troseddol ar blant ac rydym yn gwybod llawer llai am y sefyllfa yng Nghymru. Roedd yr astudiaeth hon a ariannwyd gan Ymchwil Gofal Iechyd Cymru yn ceisio llenwi’r bwlch ymchwil hwn.
Edrychodd yr astudiaeth yn benodol ar sut caiff plant eu targedu, eu paratoi a’u camfanteisio’n droseddol yng Nghymru. Roedd hefyd yn cynnwys asesiad o ba wasanaethau gwahanol sydd eu hangen i allu nodi’r plant hyn, ymgysylltu â nhw a’u diogelu yn effeithiol drwy ystyried y dulliau a’r ymyriadau sydd fwyaf effeithiol wrth nodi camfanteisio troseddol ar blant a’i atal. Wrth wneud hynny, cynhaliwyd cyfweliadau gyda 14 o blant a oedd mewn perygl o gael eu hecsbloetio, 15 o rieni ag o leiaf un plentyn a oedd wedi cael eu hecsbloetio’n droseddol, a 56 o weithwyr proffesiynol, gan gynnwys cynrychiolwyr o Heddlu Trafnidiaeth Prydain, gwasanaethau plant, addysg, iechyd, tai, yr heddlu, y gwasanaeth prawf, gwasanaethau troseddau ieuenctid, y trydydd sector a Llywodraeth Cymru.
Daeth i’r amlwg yn yr astudiaeth fod y term ‘llinellau sirol’ a ddefnyddir yn aml, yn tynnu sylw oddi wrth y gwahanol ffyrdd y mae plant yn cael eu hecsbloetio’n droseddol. Mae hyn yn cynnwys camfanteisio gan aelodau o’r teulu, unigolion neu grwpiau lleol, yn ogystal â grwpiau trefol. Yn yr un modd, fe wnaeth syniadau ynghylch camfanteisio oedd yn seiliedig ar rywedd lesteirio ymatebion diogelu priodol i ferched sy’n cael eu camfanteisio’n droseddol a bechgyn sy’n cael eu camfanteisio’n rhywiol; dangosodd y canfyddiadau y gall bechgyn a merched gael eu camfanteisio’n droseddol a/neu eu hecsbloetio’n rhywiol. Felly, fe wnaeth yr astudiaeth fabwysiadu’r term ‘camfanteisio ar blant’ i adlewyrchu ystod y rhai oedd yn cyflawni’r troseddau hyn, gweithgareddau troseddol, a’r ystod o gamdriniaeth gorfforol a rhywiol yr oedd plant yn eu dioddef pan oedd pobl yn camfanteisio arnynt.
Mae canfyddiadau’r adroddiad yn cael eu defnyddio i ddatblygu pecyn cymorth i wella ymatebion gan wasanaethau a chymunedau i bobl ifanc sydd mewn perygl neu sy’n gysylltiedig â chamfanteisio troseddol ar blant. Bydd y pecyn cymorth yn rhoi gwybodaeth am sut mae plant yn cael eu targedu, y gweithgareddau y maent yn ymwneud â hwy a pha ddulliau ac ymyriadau y dangoswyd eu bod yn effeithiol o ran cefnogi pobl ifanc yn ddiogel i ffwrdd o gamfanteisio. Mae’r pecyn cymorth yn cael ei gynhyrchu gyda phlant, rhieni a gweithwyr proffesiynol a bydd yn cynnwys dolenni i wybodaeth ac adnoddau sy’n bodoli eisoes yn ogystal â chynnwys newydd yn seiliedig ar ganfyddiadau’r astudiaeth.