Ysgrifennwyd gan Jonathan Scourfield, Dirprwy Gyfarwyddwr y ganolfan

Mae diogelu bob amser wedi bod yn flaenoriaeth allweddol i CASCADE gan ein bod yn ganolfan ymchwil a datblygu ar gyfer gofal cymdeithasol plant. Gan ei bod yn Wythnos Diogelu Genedlaethol, hoffwn dynnu sylw at rywfaint o’n gwaith ar y thema hon.

Ein nod yw gwneud ymchwil gyda goblygiadau pwysig o ran ymarfer a pholisïau diogelu. Enghreifftiau diweddar fyddai’r trosolwg o adolygiadau ymarfer plant ac oedolion yng Nghymru a gynhaliwyd gan Alyson Rees, Tom Slater a’u cydweithwyr. Rydym yn cymryd rhan mewn sawl gwerthusiad cadarn o wasanaethau – er enghraifft yr astudiaeth o Weithwyr Cymdeithasol mewn Ysgolion, dan arweiniad Dave Westlake, sy’n un o’r hapdreialon rheoledig mwyaf a gynhaliwyd erioed ar ofal cymdeithasol yn y DU.

Rydym wedi canolbwyntio’n benodol ar atal niwed i bobl ifanc – er enghraifft, mae Nina Maxwell wrthi’n paratoi pecyn cymorth i ymateb i linellau cyffuriau a gwerthuso gwasanaeth i dorri’r cysylltiad rhwng plant a phobl ifanc â throseddu cyfundrefnol. Fe wnaeth ymchwil flaenorol gan Sophie Hallett ar gamfanteisio’n rhywiol ar blant lywio’r canllawiau statudol i Gymru ac mae ei hadnoddau ymarfer gwych i’w gweld yma. Ar hyn o bryd mae Clive Diaz yn astudio sut mae’r canllawiau hyn yn cael eu gweithredu.

Yn ein holl ymchwil rydym yn cymryd safbwynt beirniadol ar ymarfer cyfredol a’i gyd-destun cymdeithasol. Amlygwyd y cysylltiad cryf rhwng amddifadedd a diogelu gan y Prosiect Anghydraddoldebau Lles Plant ledled y DU, dan arweiniad Paul Bywaters o Brifysgol Huddersfield. Cynhaliwyd cangen Cymru o’r astudiaeth hon yn CASCADE ac yn fwy diweddar mae Martin Elliott wedi dilyn hyn gydag ymchwil ansoddol am anghydraddoldebau cymdeithasol ac ymarfer yng Nghymru.

Gall y broses ddiogelu fod yn brofiad anodd dros ben i deuluoedd. Gan gydnabod hyn, a’r angen i aelodau’r teulu gael eu cefnogi drwy’r broses a chael eu clywed, mae Clive Diaz yn arwain dwy astudiaeth am eiriolaeth rhieni ac rydw i newydd ddechrau prosiect pedair blynedd ar gynadleddau grŵp teuluol. Rydym hefyd yn cynnwys pobl ifanc rhienisydd â phrofiad bywyd o ofal cymdeithasol plant yn ein gwaith fel cynghorwyr a chyd-ymchwilwyr.

Mae diogelu’n hollbwysig ac mae niwed yn gallu digwydd mewn cynifer o ffyrdd – nid yn unig yn y sefyllfa lle mae plentyn neu oedolyn mewn perygl ond hefyd o ganlyniad i ymatebion ansensitif gan weithwyr proffesiynol. Gobeithiwn y gall ein hymchwil helpu i ddeall profiad pobl a nodi ymarfer gorau wrth atal niwed. Dim ond trwy gynnal perthynas gref â phobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol y gall hyn weithio. Os hoffech gymryd rhan yn y ganolfan mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â ni.