Cyngor Harrow, Lloegr, yw’r cyntaf i lofnodi siarter newydd sbon sy’n ceisio cael gwared ar stigma ac asesiadau cyn geni awtomatig o’r System Gofal Cymdeithasol ar gyfer Rhieni â Phrofiad o Ofal.

Arweiniwyd y gwaith o ddatblygu siarter newydd gan CASCADE, Prifysgol Caerdydd ac mae’n cael ei lansio mewn partneriaeth â’r Cynnig Lleol i Ymadawyr Gofal

Cefndir y siarter

Mae’r siarter yn adeiladu ar ymchwil blaenorol dan arweiniad Dr Louise Roberts. Cyhoeddwyd ei llyfr, ‘The Children of Looked After Children: Outcomes, Experiences and Ensuring Meaningful Support to Young Parents In and Leaving Care’, ym mis Mawrth 2021 ac mae ar gael i’w lawrlwytho am ddim drwy.

Y catalydd ar gyfer yr ymchwil, oedd pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol sy’n gysylltiedig â Lleisiau o Ofal Cymru. Mynegwyd pryderon ynghylch ymatebion i bobl ifanc mewn gofal ac ymadawyr gofal a oedd yn disgwyl plentyn neu’n magu plant, a’r gefnogaeth oedd ar gael iddynt. Canfu’r astudiaeth ddilynol dystiolaeth i gefnogi pryderon o’r fath; gan amlygu’r potensial ar gyfer stigma a gwahaniaethu, dangos lefelau ymyrraeth statudol a gwahanu, yn ogystal â gwasanaethau cymorth amrywiol a rhai oedd heb eu datblygu’n ddigonol.  Daeth yr astudiaeth i’r casgliad bod angen rhoi sylw i hyn ar frys, a hynny o ran polisi ac ymarfer ar lefel genedlaethol, lleol ac unigol er mwyn gwella ymatebion cefnogi rhieni corfforaethol i rieni sydd mewn gofal ac yn gadael gofal.

Bwriad y siarter ddilynol oedd sicrhau newid ystyrlon i rieni sy’n rhan o’r system ofal ac yn ei gadael.  Cynhyrchwyd y siarter ar y cyd â rhieni oedd â  phrofiad o ofal, gyda chefnogaeth sefydliadau blaenllaw yn y trydydd sector yng Nghymru; Lleisiau o Ofal CymruNYAS Cymru a TGP Cymru. Yn ogystal, cefnogwyd ei datblygiad gan Terry Galloway a thrwy ymgynghori â gweithwyr proffesiynol statudol a thrydydd sector.

Mae rhagor o fanylion am y gwaith hwn ac amrywiaeth o adnoddau ategol ar gael drwy: Cefnogi rhieni sydd mewn gofal ac yn gadael gofal: #NegeseuoniRieniCorfforaethol

Meddai Terry Galloway, o’r Cynnig Lleol i Ymadawyr Gofal

“Mae’r siarter hon yn helpu i hau’r hadau ar gyfer cydberthynas well. Fe’i lluniwyd i gael gwared ar y stigma ac asesiadau cyn geni awtomatig ar gyfer ein rhieni sydd â phrofiad o ofal. Dim ond wedyn y gall ein pobl fwyaf agored i niwed deimlo’n ddiogel yn gofyn am help a dim ond wedyn y bydd perthnasoedd gwell yn cael eu ffurfio, lle mae modd gwella’r sefyllfa.

“Mae’n bwysig fy mod yn hyrwyddo’r siarter hon gan fod cynifer o rieni ifanc sydd â phrofiad o ofal yn teimlo’n ynysig ac yn ofni gofyn am help. Mae stigma eu profiad o ofal yn rhy fawr, maen nhw’n teimlo eu bod yn cael eu barnu ac o ganlyniad dydyn nhw ddim yn gofyn am help pan fyddan arnyn nhw ei angen fwyaf.”

Dywedodd Dr Louise Roberts – CASCADE, Prifysgol Caerdydd

“Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda Terry Galloway ac rydym yn gyffrous i weld y siarter ar wefan y Cynnig Lleol i Ymadawyr Gofal.  Mae’r siarter yn bendant yn ymdrech ar y cyd, ac fe’i lluniwyd ochr yn ochr â rhieni â phrofiad o ofal. Y bwriad yw darparu fframwaith ar gyfer cryfhau cymorth rhianta corfforaethol. Credwn y bydd ymrwymiad i’r siarter hon yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon i fywydau pobl ifanc ac yn helpu i sicrhau mynediad i’r cymorth y maen nhw’n ei haeddu ac y mae arnynt ei angen. Rydym wrth ein bodd mai Harrow yw’r cyngor cyntaf i ymrwymo i hyn, a gobeithiwn y bydd llawer mwy yn dilyn.”

Dysgwch mwy am y prosiect ac am adnoddau ni.

Nodiadau

Mae ymrwymiadau’r siarter yn ceisio gwrthweithio’r anfantais a wynebir gan bobl ifanc â phrofiad o ofal ac nid yw’n gofyn am ddim mwy na’r hyn a fyddai fel arfer ar gael i bobl ifanc sydd â chefnogaeth teulu biolegol. Bydd llofnodwyr y siarter yn dangos eu cefnogaeth i sicrhau newid ystyrlon o ran sut caiff pobl ifanc eu paratoi i fod yn rhieni, y canfyddiad ohonynt a’r ymateb iddynt fel rhieni, a hefyd sut mae eu rhieni corfforaethol yn eu cefnogi. 

Llofnodwyr Pellach

Mae’r Cynnig Lleol i Ymadawyr Gofal wedi ysgrifennu at bob Cyngor yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i ofyn iddynt ymrwymo i’r Siarter hon yn Wythnos Ymadawyr Gofal 2021.

Cysylltiadau

Terry Galloway, Care Leaver Local Offer

www.careleaveroffer.co.uk

terrygalloway@myself.com

07838317574

Dr Louise Roberts, CASCADE

RobertsL18@caerdydd.ac.uk

07507639419