Bydd un o gynlluniau trosglwyddo arian gwrthdlodi mwyaf uchelgeisiol y byd yn cael ei werthuso gan dîm aml-sefydliad dan arweiniad un o brif ganolfannau ymchwil gofal cymdeithasol y DU, sydd wedi’i leoli ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd Canolfan Ymchwil a Datblygiad Gofal Cymdeithasol Plant CASCADE yn arwain yr ymchwil ynghyd ag academyddion o Goleg y Brenin Llundain, Prifysgol Rhydychen, Prifysgol Caerefrog, Prifysgol Northumbria a Chanolfan Effaith Ddigartrefedd.
Mae Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol Llywodraeth Cymru ar gyfer Pobl sy’n Gadael Gofal yng Nghymru yn rhoi’r hyn sy’n cyfateb i’r Cyflog Byw Go Iawn i bobl ifanc sy’n gadael gofal, sef £1600 y mis cyn treth, o’r mis yn dilyn eu deunawfed penblwydd am gyfnod o ddwy flynedd. Bydd y taliadau’n cael eu gwneud i tua 550 o bobl ifanc sy’n cael eu pen-blwydd yn 18 oed rhwng 1 Gorffennaf 2022 a 30 Mehefin 2023. Bydd cyfyngu’r taliadau i garfan unflwydd yn unig yn caniatáu i effeithiolrwydd y polisi gael ei werthuso cyn gwneud unrhyw benderfyniad ar ddyfodol y cynllun.
Mae pobl ifanc sy’n gadael gofal maeth, preswyl neu ofal gan berthnasau yn grŵp amrywiol ond yn fwy tebygol na’u cyfoedion o brofi tlodi, digartrefedd a chanlyniadau iechyd a chymdeithasol gwael. Gall hyn fod oherwydd amrywiaeth o ffactorau gan gynnwys trawma cynnar, ansefydlogrwydd yn y system ofal a diffyg rhwydweithiau teuluol, gan gynnwys ‘banc mam a dad,’ i weithredu fel rhwyd ddiogelwch. Y gobaith yw y bydd yr hwb ariannol hwn yn grymuso’r bobl ifanc i wneud eu dewisiadau eu hunain gyda’r arian a buddsoddi yn eu dyfodol yn unol â’u hanghenion a’u dyheadau.
Dywedodd Jen, oedolyn sydd â phrofiad o ofal ac sydd wedi cynghori ymchwil CASCADE ers ei lansio yn 2014 fod y Peilot Incwm Sylfaenol yn bolisi pwysig oherwydd:
“Mae’r rhai sy’n gadael gofal yn wynebu llawer o broblemau’n syth na fyddai llawer o’u cyfoedion yn wynebu gan fod yn rhaid iddyn nhw redeg tŷ a dechrau byw yn annibynnol. Does ganddyn nhw ddim system wrth gefn lle gallen nhw fynd i ofyn am help”.
Mae’r gwerthusiad yn debygol o ddenu diddordeb rhyngwladol oherwydd maint a chwmpas y peilot. Er bod llawer o eiriolwyr dros drosglwyddo arian parod a chynlluniau incwm sylfaenol cyffredinol fel dull o fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a thlodi, prin yw’r dystiolaeth sy’n ymwneud â’u heffaith.
Mae manylion y gwerthusiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn cael eu rhannu heddiw mewn cyfarfod rhyngwladol ar-lein o academyddion a llunwyr polisi sydd â diddordeb mewn cynlluniau incwm sylfaenol, a gynhelir gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Mae CASCADE a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ill dau wedi’u lleoli yn adeilad Sbarc|Spark newydd Prifysgol Caerdydd, sydd wedi’i gynllunio i feithrin cydweithrediad creadigol rhwng ymchwil gwyddorau cymdeithasol, arloesedd, polisi a chymdeithas sifil.
Mae tîm ymchwil Gwerthusiad Peilot Incwm Sylfaenol Cymru fel a ganlyn: Prif Ymchwilwyr yr Athro Sally Holland a Dave Westlake o CASCADE, Cyd-ymchwilwyr yr Athro Kate Pickett (Prifysgol Caerefrog), yr Athro Michael Sanders (Coleg y Brenin Llundain) a Dr Elizabeth-Ann Schroeder (Prifysgol Rhydychen), ac aelodau tîm yr Athro Matthew Johnson (Prifysgol Northumbria), Dr Rod Hick a Dr Louise Roberts (Prifysgol Caerdydd), yr Athro Stavros Petrou (Prifysgol Rhydychen) a Guillermo Rodriguez-Guzman (Canolfan Effaith Digartrefedd).