Mae Prifysgolion Caerdydd, Bryste, Caeredin, Loughborough ac Universitet Uppsala yn eich gwahodd i fynychu’r drydedd Gynhadledd Gwaith Cymdeithasol a Dadansoddi Sgyrsiau flynyddol sy’n digwydd ar 16 Mawrth 2023 (ar-lein), 9.45am – 4.15pm.

Bydd yn gyfle i gyfnewid canfyddiadau ymchwil o wahanol leoliadau sefydliadol, cenedlaethol, a diwylliannol, ac fe fydd yn fan cyfarfod ar gyfer academyddion, ymchwilwyr, a myfyrwyr doethurol sydd â diddordeb cyffredin mewn defnyddio dadansoddi sgyrsiau ym maes gwaith cymdeithasol.

Rydym yn hynod falch y bydd ein prif araith eleni yn cael ei rhoi gan Juliet Koprowska, Cymrawd Ymchwil Anrhydeddus ym Mhrifysgol Efrog, ac arbenigwr byd-eang ar gyfathrebu mewn gwaith cymdeithasol a dadansoddi sgyrsiau mewn modd cymhwysol.

Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal ar-lein (dros Zoom), ac mae’n rhad ac am ddim – ond rhaid cofrestru erbyn 10 Mawrth 2023.

Gweld y rhaglen lawn a chofrestru ar gyfer eich lle rhad ac am ddim.