Ysgrifenwyd gan Elaine Speyer
Pan glywais i’r newyddion da y bues i’n llwyddiannus yn fy nghais a’m cyfweliad ar gyfer PhD ddiwedd yr haf diwethaf, ces i siom ar yr ochr orau, ac yn llawn cynnwrf a phryder, i gyd ar yr un pryd! Doedd dyddiad cychwyn fy PhD ddim ymhell ar ôl hynny, felly dim ond ychydig o amser oedd gen i i fedru prosesu a chredu’r peth, cyn cychwyn arni go iawn.
Mae’r PhD yn ymchwilio i anghenion, canlyniadau a phrofiadau pobl ifanc leiafrifol sydd â hawl i fod ar Gynllun Peilot Incwm Sylfaenol Cymru i’r rheiny sy’n gadael gofal. Mae’n deillio o brosiect gwerthuso ar raddfa fwy y mae CASCADE yn gweithio arno â phrifysgolion partner (cewch ragor o wybodaeth am y prosiect hwnnw yma), felly peth hyfryd yw gallu bod ynghlwm wrth y ganolfan ymchwil o hyd.
Ar gyfer fy PhD, bydda’ i’n ymgymryd ag astudiaeth dulliau cymysg, sy’n defnyddio data cynradd ac eilaidd, felly mae llawer o waith o’m blaen. Er hynny, rwy’n teimlo’n hynod o ffodus i fedru astudio maes pwnc mor ddiddorol, sy’n cyfuno nifer fawr o’m diddordebau o ran rhoi llais i grwpiau lleiafrifol, wrth drin a thrafod datrysiadau posibl er mwyn ceisio lleddfu tlodi ac anghydraddoldeb. Mae gen i dîm gwych o oruchwylwyr sy’n gefn imi drwyddi draw, a ches i gyfle i gwrdd â grŵp cynghori pobl ifanc yn rhan o’r prosiect hwn, felly rydw i’n teimlo’n ffodus iawn o allu cael eu mewnbwn. Rwy’n gobeithio y bydd yr hyn a wnaf yn rhoi chwarae teg â’r bobl ifanc!
Er fy mod i wedi bod yn brysur wrthi’n gweithio ar y PhD, rydw i hefyd wedi bod yn ddigon ffodus o allu aros gyda Thîm Cynnwys y Cyhoedd am un diwrnod yr wythnos. Drwy lwc, mae gennym ni aelod gwych, Josie, sydd wedi newydd ymuno â’r, ac sydd wedi cymryd yr awenau o’r hyn yr oeddwn i’n ei wneud yn flaenorol, cyn i mi gwtogi fy oriau.
Er fy mod i’n colli gweithio gyda rhai o’r grwpiau ardderchog hyn yn fwy rheolaidd, rydw i mor falch fy mod i’n rhan o’r tîm o hyd, ac yn gallu picio i mewn er mwyn ailgydio mewn ambell ddarn o waith a weithiais arno o’r blaen. Bydda’ i hefyd yn parhau i weithio gyda grŵp Cynnwys y Cyhoedd ERICA, sy’n ymchwilio i anghydraddoldebau ethnig a chrefyddol mewn gwaith cymdeithasol (cewch ragor o wybodaeth am hynny yma).
Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr a grŵp rhieni, yn benodol ar ysgrifennu papur am sut rydyn ni’n gweithio i’w cynnwys yn ein hymchwil. Rwy’n cyfrannu at becyn cymorth at ddiben cefnogi’r unigolion hynny sy’n cymryd rhan mewn ymchwil ar bobl sydd â phrofiad personol o’r gwasanaethau cymdeithasol. Rydw i hefyd yn edrych ar sut y gallwn ni gynnwys pobl yn ein gwerthusiadau, er mwyn inni fedru deall, o lygad y ffynnon, sut beth yw arfer dda, ac os ydyn ni’n cyflawni hyn fel tîm ai peidio.
Yn sicr, mae wedi bod yn gyfnod prysur, ond un llawn cyffro hefyd. Edrychaf ymlaen at barhau â’m hastudiaethau, a gweithio gyda’r tîm ar nifer o brosiectau gwahanol a diddorol y byddwn ni’n cymryd rhan ynddyn nhw yn y dyfodol.
Hoffwn estyn fy niolch i ganolfan ymchwil CASCADE, a Thîm Cynnwys y Cyhoedd, sydd wedi bod yn gefn imi ers y cychwyn. Profiad gwych oedd gweithio gyda chi i gyd!