Ysgrifenwyd gan Yr Athro Sally Holland 

Mae CASCADE yn arwain gwerthusiad cymhleth ac o bwys o gynllun peilot cyffrous yng Nghymru. Ynghlwm wrth y cynllun peilot hwn y mae mwy na 600 o bobl 18 oed sy’n gadael gofal yng Nghymru. Maen nhw’n derbyn incwm sylfaenol sy’n cyfateb i’r cyflog byw, a hynny am gyfnod o ddwy flynedd (sef y cyfnod rhwng eu hoedrannau’n 18 ac 20 oed). Rydyn ni wrthi’n mesur ac yn arsylwi ar yr effaith y mae hyn yn ei chael.  

Mae gennyn ni grŵp gwych o bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal sy’n rhoi cyngor ar y prosiect. Mae’r rhan fwyaf braidd yn rhy hen i dderbyn yr arian eu hunain, ond maen nhw’n ddigon ifanc i gofio sut beth yw gadael gofal yn 18 oed. 

Yn ystod y 18 mis diwethaf, rydyn ni wedi cwrdd ar saith achlysur, a bu’r grŵp yn cynnig adborth a chyngor sydd wedi arwain at newid y prosiect mewn sawl ffordd. Dyma rai enghreifftiau: 

Newid y cwestiynau rydyn ni’n eu gofyn 

Gwnaeth y grŵp edrych ar y gwahanol gwestiynau yn yr arolwg, gan ddewis y rhai sydd, yn eu barn nhw, yn fwyaf tebygol o fod yn ddealladwy ac yn bwysig i bobl ifanc. Gwnaethon nhw roi’r hyder inni fedru holi rhai cwestiynau nad oedden ni’n hollol siŵr yn eu cylch o ran iechyd meddwl, gan dawelu ein meddwl bod ein cwestiynau’n bwysig ac yn berthnasol. 

Mae’r grŵp hefyd wedi llunio cyfres o gwestiynau i’w holi i bobl ifanc ac Ymgynghorwyr Personol mewn cyfweliadau ac mewn grwpiau ffocws. 

Newid y ffordd rydyn ni’n gofyn cwestiynau 

Gwnaeth y grŵp helpu i dreialu grŵp ffocws, lle gwnaethon ni gynnig gweithgaredd crefft i helpu pobl i ymlacio a chael trafodaeth grŵp. Roedd gan aelodau’r grŵp farn gymysg ynghylch y gweithgaredd crefft, yn cwestiynu a yw’n fuddiol ai peidio, ac a wnaeth rhoi cyngor defnyddiol iawn inni at y dyfodol o ran sut y gallwn ni strwythuro’r sesiwn yn well, er mwyn ceisio ei gwneud yn fwy hygyrch i bawb. 

Fe wnaethon ni hefyd dreialu gêm mewn sesiwn arall, ond nid oedd hyn yn boblogaidd ymysg y grŵp, gan y tybient ei fod yn rhy blentynnaidd ac yn annefnyddiol i bobl allu rhannu eu barn. Mae dweud wrthym i BEIDIO â gwneud rhywbeth yr un mor ddefnyddiol â dweud wrthym beth i’w wneud! 

Cyngor ar adrodd 

Yn ein sesiwn ddiwethaf, bu i aelodau’r grŵp roi cyngor inni ar sut i roi gwybod am ganfyddiadau a allai fod yn sensitif, a sut i lunio adroddiadau cryno mewn modd sydd o fewn cyrraedd pobl ifanc. 

Beth nesaf? 

Rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i gynnwys aelodau’r grŵp wrth iddyn nhw ein helpu i ddehongli ac adrodd ynghylch ein canfyddiadau. Bydd y grŵp hwn yn cael ei gynnal hyd at 2026! 

Diolch yn fawr iawn i bob un sydd ynghlwm, yn enwedig yr aelodau hynny sy’n teithio’n bell i ddod i’r cyfarfodydd, neu’r rheiny sy’n rhoi o’u hamser ar ddydd Sadwrn, yn enwedig ar ôl wythnos hir yn y gwaith, coleg neu’n gwneud prentisiaeth. 

Sally Holland, CASCADE.