Rydym yn falch iawn i fod wedi derbyn £2.9 miliwn o gyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i’n helpu i adeiladu rhaglen waith uchelgeisiol a chyffrous dros y bum mlynedd nesaf.
Bydd yr arian hwn yn caniatáu i CASCADE a’n partneriaid yn yr Ysgol Seicoleg, y Ganolfan Ymchwil Treialon a SAIL (Cysylltu Gwybodaeth Ddienw yn Ddiogel) ym Mhrifysgol Abertawe ddatblygu ein gwaith yn y meysydd canlynol:
Ehangu Rhwydwaith ExChange – er mwyn darparu rhwydwaith ymgysylltu ag ymchwil gofal cymdeithasol i Gymru gyfan. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno rhaglen eang o ddigwyddiadau ac adnoddau wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Cynnwys plant a rhieni ar draws ein gwaith – yn ogystal â gweithiwr arbenigol penodedig a all ein helpu i sicrhau bod llais pobl ifanc a gofalwyr wrth wraidd popeth a wnawn, mae gennym gyfle hefyd i gynnig profiad gwaith a chyflogaeth â thâl i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal – i’n helpu i sicrhau lle bo modd bod ein hymchwil yn cael ei chreu gyda’r rhai sydd â phrofiad byw o broblemau.
Datblygu gallu ymchwil ym maes gofal cymdeithasol – byddwn yn cefnogi ymchwilwyr ar gamau cynnar a chanol eu gyrfa, ac yn gweithio at ddatblygu cymuned o ymarferwyr ac ymchwilwyr sy’n ymroi i wella ansawdd a’r defnydd ymarferol o ymchwil.
Gwella ein gwaith gwerthuso – mae gennym brofiad gwych eisoes mewn ymchwil sy’n ceisio darganfod beth sy’n gweithio, fel y gwelir yn ein rôl yn sefydlu Beth sy’n Gweithio i Ofal Cymdeithasol Plant. Mae’r cyllid hwn yn caniatáu i ni adeiladu ar hynny, gan ddatblygu dulliau newydd ac arloesol o ateb y cwestiwn y mae ymarferwyr yn ei ofyn amlaf: beth sy’n gwneud gwahaniaeth?
Mae archwilio potensial cysylltedd data – cysylltu data sy’n bodoli yn ddienw, yn cynnig y potensial i ni allu deall mwy am achosion a chanlyniadau hirdymor gweithredu gan wasanaethau plant. Byddwn yn datblygu syniadau ymchwil i archwilio potensial y dull hwn yng Nghymru a thu hwnt.
Ein nod yw y byddwn, dros bum mlynedd, wedi adeiladu CASCADE yn brif ganolfan ymchwil ym maes gofal cymdeithasol i blant. Ein gobaith yw y bydd hyn yn ein galluogi i sicrhau bod yr ymchwil a wnawn yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i blant a theuluoedd ledled Cymru a gweddill y DU.