Fis Tachwedd 2017, cyhoeddodd yr Adran dros Addysg mai CASCADE fyddai ei Phartner Ymchwil ynghylch Arferion Da Gofal Cymdeithasol i Blant. Fe roes gytundeb i Nesta i’w helpu i baratoi a sefydlu’r ganolfan.  

Mae llawer wedi newid ers hynny, dair blynedd yn ôl. Mae Canolfan Arferion Da Gofal Cymdeithasol i Blant wedi’i hailenwi ac mae’n elusen annibynnol bellach. Mae statws ffurfiol CASCADE yn Bartner Ymchwil wedi dod i ben. Ynghyd â rhai cyrff eraill, rydyn ni’n aelodau o Banel Gwerthuswyr Arferion Da Gofal Cymdeithasol i Blant. Partneriaid mewn ymchwil, felly, ond nid y Partner Ymchwil mwyach.

Mae’r berthynas wedi bod yn llwyddiant mawr hyd yma, hefyd. Gyda chymorth Nesta, a’r WWC wedyn, mae ymchwilwyr CASCADE wedi gweithio’n ddyfal i gwblhau cyfres o brosiectau arbrofol megis Cyllidebau datganoledig, Profiad pobl ifanc o addysg uwch ar ôl bod o dan ofal, Goruchwylio yn ôl deilliannau, Rowndiau Schwartz a Gweithwyr cymdeithasol yn yr ysgol. Trwy’r prosiectau hynny, rydyn ni wedi astudio pethau megis datganoli cyllidebau i weithwyr cymdeithasol i’w galluogi i weithio’n fwy creadigol gyda theuluoedd a rhoi gweithwyr cymdeithasol yn yr ysgol i gwtogi ar nifer yr ymyriadau statudol ym mywyd preifat teuluoedd. Mae arbrawf gweithwyr cymdeithasol yn yr ysgol wedi’n helpu i baratoi ar gyfer astudiaeth ehangach o lawer i weld pa mor effeithiol fyddai ym mhob ysgol.

At hynny, rydyn ni wedi adolygu’n drylwyr lawer o dystiolaeth gyfredol megis adolygu trefn cyfarfodydd penderfynu ar y cyd, adolygu amryw ddulliau trefn Arwyddion Diogelwch, adolygu a dadansoddi gwasanaethau cadw teuluoedd, adolygu’n fras arferion da cynnwys teuluoedd mewn prosesau penderfynu, adolygu’n fras dystiolaeth ynghylch effaith newid cyllidebau teuluoedd ar angen rhoi plant o dan ofal a dechrau dadansoddi cyfraddau plant o dan ofal yn Lloegr. Mae’r adolygiadau hynny wedi helpu i dynnu sylw at ehangder a chymhlethdod gwybodaeth gyfredol am waith cymdeithasol a nodi rhai o’r prif fylchau.

At hynny, rydyn ni wedi helpu i lunio fframwaith deilliannau WWC ynghyd â Storfa’r Dystiolaeth, sy’n cynnwys bellach dros 30 o grynodebau o’r dystiolaeth ynghylch holl amrywiaeth amryw ymyriadau a ffyrdd o weithio.

Tipyn o gamp.

Er gwaetha’r gweithgareddau hynny i gyd, mae’n ymddangos mai dim ond dechrau arbrawf gwladol i weld effaith rhagor o wariant a sylw ar ymchwil werthusol er lles y sector, y plant a’r teuluoedd yw hyn.

Er bod rôl CASCADE yn Bartner Ymchwil ffurfiol wedi dod i ben, edrychwn ni ymlaen at gyfrannu eto fyth at lwyddiant y gwaith cyffrous hwn.