Ar 26 Hydref, yn rhan o Wythnos Genedlaethol Ymadawyr Gofal 2022, bydd rhwydwaith CLASS Cymru a CASCADE yn lansio gwefan newydd o’r enw CLASS Cymru. Mae’r wefan yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i bobl ifanc a fu o dan ofal a’r rhai sy’n eu helpu i bontio i addysg uwch.
Mae CLASS Cymru (Y Rhai sy’n Gadael Gofal a Chymorth i Fyfyrwyr Cymru) yn rhwydwaith o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda’r rhai sy’n gadael gofal a phobl ifanc eraill sydd â phrofiad o ofal ac sydd wedi ymddieithrio yn eu teithiau addysgol tuag at addysg uwch. Awgrymodd ymchwil a gynhaliwyd gan Dr Hannah Bayfield o CASCADE i’r cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru, er bod cymorth ar gael, nad yw bob amser wedi’i gyfeirio’n dda nac yn benodol i sefyllfaoedd pobl ifanc â phrofiad o ofal.
Bwriad gwefan CLASS Cymru yw cau’r bwlch hwn: cynnig cyngor clir a chryno a chyfeirio at ffynonellau cymorth a gwybodaeth berthnasol. Gan gwmpasu’r llinell amser gyfan o ystyried gradd prifysgol hyd at beth i’w wneud pan fyddwch yn graddio, mae’r adnodd dwyieithog hwn yn darparu siop un stop i bobl sydd â phrofiad o ofal a’r rhai sy’n eu cefnogi ar gyfer dod o hyd i’r wybodaeth allweddol sy’n angenrheidiol i symleiddio’r broses hon.
Croesawodd lansiad CLASS Cymru ymarferwyr, pobl ifanc ac academyddion i ddysgu mwy am y prosiect a’r wefan, yn ogystal â chlywed gan fyfyrwyr sydd wedi bod mewn gofal a’r fenter gymdeithasol Sunflower Lounge am sut y gallwn ni i gyd weithio tuag at well cefnogaeth ar gyfer myfyrwyr â phrofiad o ofal.
I ddarganfod mwy, ewch i’r wefan neu ebostiwch info@classcymru.co.uk