Ar ôl  ‘absenoldeb’ hir o 7 mlynedd fel Comisiynydd Plant Cymru, rwyf i wedi dychwelyd yn ddiweddar i Brifysgol Caerdydd a Chanolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant CASCADE i ailafael yn y bywyd academaidd.

Ychydig fisoedd ar ôl dychwelyd, rwyf i wedi bod yn myfyrio ar rywfaint o’r hyn rwyf i wedi’i weld yma yn CASCADE ers dod yn ôl. Sefydlais CASCADE yn 2014 fel canolfan fach gyda’r nod o wella ein gwybodaeth ynglŷn â’r ffordd orau o gefnogi plant ag anghenion gofal cymdeithasol a’u teuluoedd, ac i sicrhau bod gan y rhai sydd â phrofiad o dderbyn a darparu’r gwasanaethau hynny rôl ganolog wrth gynghori ac ysgogi’r gwaith.

Saith mlynedd yn ddiweddarach, dyma fi’n dychwelyd fel y Fodryb nad ydych chi wedi’i gweld ers pan oeddech chi’n fach sy’n dweud ‘Waw, ti wedi tyfu!’ drwy’r amser. Ac yn wir, dan arweiniad rhagorol yr Athro Donald Forrester, a chefnogaeth llawer o bobl eraill, mae CASCADE wedi tyfu i fod y ganolfan ymchwil gofal cymdeithasol plant fwyaf yn y DU, ac o bosibl yn Ewrop.

Ond nid maint yw’r ffordd orau o farnu ansawdd fel arfer ac ers i mi ddychwelyd rwyf wedi bod yn edrych yn fanwl ar ein dull o gynnwys y cyhoedd, gan mai dyma’r maes y byddaf i’n arwain arno.

Rwy’n falch i ddweud bod y tîm bach ond angerddol sy’n gyfrifol am gynnwys y cyhoedd (un aelod a hanner o staff) yn gwneud gwaith trawiadol iawn, gyda pheth ohono’n torri tir newydd.

Gan gymryd gofal mawr o les y rhai sy’n ymgysylltu â ni, yn ogystal â moeseg y math hwn o waith, mae’r tîm yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein gwaith yn cael ei lywio, a’i werthuso, gan bobl sy’n gwybod am beth maen nhw’n siarad, yn aml yn sgil profiadau anodd. Dyma’r ffyrdd gwahanol rydym ni’n gwneud hyn

  • Mae gennym ni fwrdd cynnwys y cyhoedd, lle mae pobl sydd â phrofiad o ymwneud â gofal cymdeithasol fel rhieni neu yn eu plentyndod yn helpu i lywio ein meddwl a chynllunio ar lefel strategol. Byddwn yn gweithio i ymgorffori hyn yn llawnach yn ein strwythur llywodraethu dros y flwyddyn nesaf.
  • Rydym ni’n parhau â’n partneriaeth hirsefydlog gyda Lleisiau Mewn Gofal i redeg Lleisiau CASCADE, sy’n dod â phobl ifanc sydd wedi’u hyfforddi mewn ymchwil ac sydd â phrofiad o ofal at ei gilydd i ymgynghori ar ein hastudiaethau ymchwil. Maen nhw’n darparu cyngor cefnogol a gonest (!) ar gwestiynau a dulliau ymchwil, a sut i ddeall er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i’n canlyniadau.
  • Mae gan rai o’n hastudiaethau unigol eu paneli cynghori eu hunain sy’n cynnwys pobl sydd â phrofiad perthnasol. Un enghraifft o hyn yw ein prosiect Llais y Teulu, sydd hefyd yn cyflogi dau ymchwilydd cymheiriaid.
  • Mae gennym hefyd grŵp rhieni sy’n gwneud gwaith tebyg i Lleisiau CASCADE o safbwynt rhieni, er bod rhai o’r grŵp hefyd wedi eu magu mewn gofal eu hunain. Mae pob un o’n rhieni wedi bod yn ymwneud â’r gwasanaethau cymdeithasol yn ymarferol, drwy achosion amddiffyn neu ofal plant. Maen nhw’n griw rhyfeddol o fenywod sydd ag angerdd dros wella profiadau o gefnogaeth ac ymyriadau’r gwasanaethau cymdeithasol. Rwy’n llawn edmygedd i’w cymhelliant, eu cyngor meddylgar a’u synnwyr digrifwch drygionus. Yn wir, gallwch ddarllen blog gan un o’r aelodau gwych yma a gweld fideo a wnaed gan y rhieni yma.

Prin yw’r rhaglenni ‘ymgysylltu cyhoeddus’ mewn ymchwil sy’n ymgysylltu â rhieni gyda’r mathau hyn o brofiadau ar lefel datblygu ymchwil, ac mae’r grŵp a’r tîm yn bwriadu ysgrifennu am y rhain, i rannu ein taith ddysgu. Mwy yn y man!