Archwiliad o ddarpariaeth cymorth a phrofiadau o adael gofal yn ystod pandemig y coronafeirws.
Arolwg
Nod yr astudiaeth hon oedd archwilio profiadau ymadawyr gofal o gyfyngiadau yn ystod y cyfnod clo, a orfodwyd o ganlyniad i COVID-19. Ffocws yr ymchwil oedd gweld a oedd y cyfnod clo wedi effeithio ar iechyd a lles, ynghyd â sut mae pobl ifanc wedi ymdopi yn ystod y cyfnod hwn.
Yn ogystal, roedd yr astudiaeth yn canolbwyntio’n arbennig ar y ddarpariaeth o gymorth ar gyfer pobl sy’n gadael gofal. Roedd hyn yn cynnwys profiadau pobl ifanc o gael gafael ar gefnogaeth, ynghyd ag ymdrechion gwasanaethau statudol ac anstatudol i sicrhau cefnogaeth i ymadawyr gofal yn ystod y cyfnod hwn.
Cyfeiriodd yr ymchwil at y cwestiynau ymchwil canolog canlynol:
1) Beth yw profiadau pobl ifanc o pandemig Coronafeirws (COVID-19)?
2) Sut mar pobl ifanc wedi ymdopi a chyfyngiad y pandemic Coronafeirws (COVID-19) a sut maen nhw’n myfyrio ar yr effaith ar eu heichyd a’u lles?
3) Pa gefnogaeth sydd wedi bod ar gael yn ystod y pandemig coronafirws (COVID-19) a sut mae unigolion yn myfyrio ar ei ddarpariaeth a’i effeithiolrwydd?
4) Sut mae’r cefnogaeth wedi newid fel canlyniad i’r pandemic Coronafeirws (COVID-19)?
5) Beth, os o gwbl, yw’r gwersi i’w dysgu o’r profiadau hyn? Pa ymatebion neu arferion y gellid eu cadw ar ôl y pandemig coronafirws? pe bai cyfyngiadau pellach, sut y gellid gwella’r rhain?
Gweithgareddau a Dulliau
Cynhaliwyd astudiaeth ansoddol, dull cymysg, yn cynnwys arolwg ar gyfer gweithwyr proffesiynol a chyfweliadau, grwpiau ffocws ac allbynnau creadigol gyda phobl ifanc â phrofiad o ofal. Atebodd 23 o weithwyr proffesiynol o 11 awdurdod lleol yng Nghymru gyfres o gwestiynau agored trwy adnodd arolwg ar-lein. Gofynnodd yr arolwg am fanylion mesurau cefnogi newydd ac wedi’u haddasu, sydd ar gael i ymadawyr gofal yn ystod y pandemig. Gofynnwyd i weithwyr proffesiynol hefyd ystyried gwersi ar gyfer y dyfodol ar sail eu profiadau diweddar. Roedd hyn yn cynnwys tynnu sylw at unrhyw arferion y byddent yn argymell eu cadw ar ôl y pandemig, yn ogystal ag unrhyw feysydd i’w gwella pe bai cyfyngiadau pellach.
Cyfweliadau a grwpiau ffocws gyda phobl ifanc â phrofiad o ofal
Cyfrannu mewnwelediadau manylach, gan gydnabod cymhlethdod ac amrywiaeth mewn pryderon a heriau, strategaethau ymdopi ac ymatebion. Cymerodd 21 o bobl ifanc ran, rhwng 17-25 oed ac o 12 awdurdod lleol yng Nghymru ac 1 yn Lloegr.
Cyflwynodd pedwar o bobl ifanc gerddi hefyd a chyflwynodd dau waith celf fel ffordd o gyfleu eu meddyliau a’u profiadau.
Canfyddiadau
Darllenwch yr adroddiad yma
Nod mae’r adrodddiad dim ond ar gael yn yr Saesneg
Person Arweiniol
Prif Ymchwilydd | Louise Roberts |
Prif Ymchwilydd | Alyson Rees |
Staff Academaidd
Staff Academaidd | Dawn Mannay |
Staff Academaidd | Cindy Corliss |
Staff Academaidd | Clive Diaz |
Staff Academaidd | Hannah Bayfield |
Staff Academaidd | Rachael Vaughan |
Gwybodaeth Cysylltiedig
Partneriaid Cysylltiedig | Voices from Care Cymru |
Cyllidwyr | Voices from Care Cymru ac Prifysgol Cymru |
Dogfennay Cysylltiedig | Cyrchwch yr adroddiad |