Fy wythnosau cyntaf yn CASCADE
Fel aelod diweddaraf tîm cynnwys y cyhoedd, gofynnwyd i mi blogio ar fy mhrofiadau o ymuno â CASCADE.
Elaine yw fy enw i a dechreuais yn CASCADE ddiwedd mis Mawrth. Fy rôl i yw cefnogi cyfranogiad pobl sydd â phrofiad o ddefnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol mewn ymchwil. Byddaf yn gwneud hyn drwy weithio gyda phobl ifanc a rhieni. Mae’r grwpiau’n cynghori ar wahanol gamau ymchwil, er mwyn sicrhau ei fod yn berthnasol, yn hygyrch ac yn sensitif i anghenion y bobl y mae’n eu cynrychioli. Rwy’n gyffrous iawn fy mod yn gweithio i CASCADE ar agwedd mor bwysig ar ymchwil. Rwyf bob amser wedi bod yn angerddol am ymchwil a’i photensial i rymuso a newid bywydau pobl, yn enwedig pan fyddant yn cymryd rhan ystyrlon yn y broses.
Mae fy mhrofiad wedi bod yn y trydydd sector o’r blaen, lle rwyf wedi gweithio mewn rolau ymchwil, polisi, datblygu a chyfranogi. Rwyf wedi gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion o ystod o gefndiroedd. Rwyf wedi dysgu cymaint gan y bobl rwyf wedi gweithio gyda nhw eisoes, ac rwy’n edrych ymlaen at ddysgu mwy gan y rhai y byddaf yn ymgysylltu â nhw yn CASCADE.
Er fy mod wedi cael addysg yn y brifysgol, nid wyf erioed wedi gweithio mewn un, felly roeddwn yn teimlo’n eithaf nerfus am ymuno â phrifysgol mor fawreddog, yn enwedig mewn canolfan sydd ar flaen y gad yn ei maes. Mae pawb wedi bod yn hyfryd a chroesawgar iawn, felly mae hynny wir wedi tawelu fy meddwl. Mae wedi bod mor ddiddorol dysgu am yr holl brosiectau ymchwil gwahanol y mae pobl yn gweithio arnynt.
Mae fy wythnosau cyntaf wedi bod yn bleserus iawn hyd yn hyn. Rwyf wedi cwrdd â’r grŵp rhieni gwych, lle cefais eu gweld ar waith, gan gynghori ar ychydig o ymchwil sy’n digwydd yn y ganolfan. Rwyf hefyd wedi bod yn cynllunio ein sesiwn nesaf ar gyfer pobl ifanc, a fydd yn canolbwyntio ar ddau brosiect ymchwil gwahanol. Bydd y bobl ifanc yn cynghori ar bethau fel gwybodaeth a ffurflenni caniatâd, cwestiynau a blaenoriaethau ar gyfer yr ymchwilwyr.
Cyn bo hir, byddaf yn edrych ar recriwtio ac ehangu ein grwpiau. Byddaf hefyd yn edrych ar gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Fy nod yw ceisio sicrhau bod pawb sy’n ymuno â’n grwpiau, neu’n gweithio gyda ni i gynnwys y cyhoedd mewn ffordd wahanol, yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu, yn mwynhau cymryd rhan, yn cael rhywbeth allan o’u profiadau, ac yn gadael i deimlo eu bod yn cael eu clywed.
Mae’n ymddangos y bydd yn swydd brysur, ond rwy’n edrych ymlaen yn fawr at dreulio fy amser yn gweithio ar faes mor bwysig, gyda phobl mor ysbrydoledig, ac mewn tîm gwych. Rwy’n teimlo’n anrhydedd mawr i fod yma!