Ym mis Ionawr gwahoddwyd rhieni o grŵp Cynghori Ymchwil Rhieni CASCADE i siarad am eu profiad gydag Ymchwiliad Pwyllgorau Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd. Roedd y Pwyllgor yn edrych i ymchwilio i ddiwygiadau i’r system ofal a chyhoeddodd ei adroddiad, Os nad yn awr, pryd? ym mis Mai.  

Yn flaenorol, roedd rhiant o’n grŵp hefyd wedi rhoi tystiolaeth gyda Dr Louise Roberts ar eu taith fel rhiant â phrofiad o ofal mewn cyfarfod adolygu’r Pwyllgor Deisebau.  

Felly, ddydd Mercher 12 Gorffennaf, gwahoddwyd pawb a oedd wedi cyfrannu at yr adolygiadau i fynd i’r ddadl lawn ar gyfer yr adroddiadau yn adeilad y Senedd yng Nghaerdydd. Rhoddodd hyn gyfle iddynt glywed yr ymatebion gan Lywodraeth Cymru yn uniongyrchol. Aeth CASCADE i’r ddadl gyda dau aelod o’n grŵp Rhieni, ond roedd nifer o bobl eraill yno, gan gynnwys pobl ifanc â phrofiad o ofal, sefydliadau sy’n gweithio yn y sector ac ymchwilwyr.  

Roedd yn brofiad diddorol gwylio dadl yn fyw yn y Senedd ac roedd yn bwerus gweld yr angerdd oedd gan aelodau’r Pwyllgor dros yr adroddiad a gynhyrchion nhw.  

“Roedd yn anhygoel gweld pethau’n mynd o’r dechrau i’r diwedd, a gweld y nifer o bobl yn y siambr, a’r oriel wylio yn llawn. Nid oedd unrhyw le am fwy o bobl, ac roedd y rhan fwyaf o’r rhai a ddaeth yn bobl â Phrofiad o Ofal fel fi. Roeddwn yn hynod falch ac roedd hyd yn oed gen i ddeigryn bach yn fy llygad wrth weld cymaint o bobl angerddol ac o’r un anian yno. Mae hefyd yn anhygoel bod CASCADE yn galluogi pobl ifanc i gael llais ac i fod yn rhan o’r newid hwnnw. Mae wir yn gwneud i chi deimlo’n falch a’n hyderus y medrwch chi weithredu newid… 

… Er gwaethaf pob her rwyf wedi eu profi trwy gydol fy mywyd, rwy’n gwybod bod gen i lais sy’n cael ei glywed. Rwy’n falch o weld fy enw mewn du a gwyn ar waith papur gweinidogol. Fyddwn i byth wedi ystyried gwirfoddoli i’r rôl oni bai am Dr Louise Roberts a staff CASCADE. Felly, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i CASCADE am ein hannog ni, yn bobl ifanc, i fynd y cam ychwanegol hwnnw bob amser…  

… Rwy’n teimlo’n angerddol iawn am y ddadl ac yn edrych ymlaen at weld beth sydd nesaf. Ar y cyfan, roedd yn brofiad gwych i fod wrth wraidd y gweithredu a phrofi pethau drosof fy hun a rhannu barn yn y dadleuon niferus, da a drwg, sy’n cael eu cyflwyno gan Weinidogion y Cynulliad o bob cwr o Gymru. Roedd yna lawer o angerdd o gyfeiriad y gweinidogion a’r oriel wylio.” 

Dyfyniad gan un o’n Grŵp Rhieni 

Mae gwaith i’w wneud o hyd yma, ond roedd yn amlwg o nifer y bobl a ddaeth i wylio’r ddadl fod yna lawer o bobl, sefydliadau, ymchwilwyr ac unigolion â phrofiad bywyd yn ymrwymo i weithredu newid. Mae hwn yn rheswm i fod yn optimistaidd ac yn hynod ysbrydoledig.