Yn CASCADE mae gennym ymrwymiad i gynnwys pobl sydd â phrofiad byw o wasanaethau cymdeithasol plant yn ein hymchwil. Credwn fod hyn yn rhan hanfodol o gynhyrchu ymchwil berthnasol ac effeithiol. Fodd bynnag, gall fod yn anodd i oedolion a phobl ifanc gyfrannu a deall yr hyn a wnawn mewn ymchwil. Mae pontio’r bwlch hwnnw yn rhan bwysig o’r gwaith y mae Rachael Vaughan ac Elaine Speyer yn ei wneud yn ein Tîm Cynnwys y Cyhoedd.
Maent wedi datblygu sesiwn hyfforddi hanner diwrnod hwyliog, rhyngweithiol a chyflym wedi’i hanelu at Bobl Ifanc sy’n eu harwain trwy broses ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol. Mae’r sesiwn yn cyffwrdd ar gynhyrchu syniadau, y gwahaniaeth rhwng ‘meintiol’ ac ‘ansoddol’, gwahanol ddulliau ymchwil a sut a phryd y cânt eu defnyddio, moeseg a llawer mwy. Y nod yw eu gadael wedi’u hysbrydoli dros ymchwil ac mewn gwell sefyllfa i’n helpu i gynhyrchu ymchwil berthnasol.
Fe wnaethon ni dreialu hyn gyda phobl ifanc o’n partner elusen hirsefydlog ‘Voices from Care Cymru’ ac rydyn ni’n meddwl y bu’n llwyddiant mawr! Efallai fod gosodiad yr ystafell fwrdd a’r cadeiriau troelli wedi cyfrannu at hyn, ond bu’r bobl ifanc ar eu gorau gyda chwilfrydedd, chwaraegarwch a pharodrwydd i ddysgu.
Mae’n deg dweud nad oedd rhai o’r bobl ifanc yn hollol siŵr beth oedden nhw’n ymgymryd ag e, gyda rhai o obeithion cynnar y diwrnod yn canolbwyntio ar ginio! Fodd bynnag, gyda chymorth parod Ymchwilwyr o CASCADE sy’n gweithredu fel cyfranogwyr, fe wnaethom gynnal darn hanfodol o ymchwil feintiol ac ansoddol i arferion diet o ran melysion, popcorn a pizza mewn cyd-destun ymchwil. Daethpwyd i’r casgliad bod melysion yn well na popcorn ac efallai y bydd angen i rai o’n hymchwilwyr dorri’n ôl ar fwyd sothach!
Daeth y diwrnod i ben gyda dau gynllun ymchwil datblygedig a ddatblygodd y Bobl Ifanc.
Un i archwilio’r cysylltiadau rhwng llwyth achosion Gweithiwr Cymdeithasol a boddhad Pobl Ifanc gan ddefnyddio dull cymysg sy’n cynnwys grwpiau ffocws, cyfweliadau, arolygon, a dulliau creadigol.
Y llall i werthuso effaith addasiad Cymraeg o lyfryn ‘My Story’ o Awstralia. Mae’r llyfryn yn galluogi pobl ifanc i ysgrifennu eu stori a phenderfynu pa wybodaeth yr hoffent ei rhannu, ond nid o reidrwydd yn cael eu holi amdani drwy’r amser.
Felly, nid yn unig rydym yn hyderus bod gan y bobl ifanc ddealltwriaeth dda o ddulliau ymchwil, rydym yn falch iawn o weld eu bod eisoes yn eu rhoi ar waith hefyd. Mae dyfodol ymchwil yn ddiogel ac rydym wedi cynyddu ein heffeithiolrwydd o ran cynnwys y cyhoedd. Efallai ein bod ni hefyd wedi cymryd cam tuag at ddatblygu prosiectau Ymchwil Cymheiriaid.
Diolch enfawr i’r bobl ifanc a wnaeth y diwrnod yn bleserus iawn ac, wrth gwrs, i Voices am eu holl gefnogaeth barhaus.