Ysgrifenwyd gan Elaine Speyer
Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda grŵp o rieni, gyda chefnogaeth gan EYST, yn rhan o brosiect ymchwil sy’n edrych ar anghydraddoldeb ethnig a chrefyddol mewn gwasanaethau cymdeithasol i blant a theuluoedd.
Sefydlwyd y grŵp i gynghori ar y prosiect ymchwil, er mwyn sicrhau ei fod yn berthnasol ac yn dod â manteision gwirioneddol i’r gymuned.
Rydyn ni wedi cynnal dau gyfarfod hyd yn hyn.
Nod y cyfarfod cyntaf oedd dod i adnabod ein gilydd a sefydlu’r grwp mewn ffordd sy’n gweithio i bawb. Helpodd y grŵp i benderfynu pa faterion pwysig y dylai’r ymchwilwyr fod yn canolbwyntio arnynt. Fe wnaethant hefyd rannu syniadau ynghylch pa ymchwil arall y gallai CASCADE ei wneud yn y dyfodol.
Roedd yn wych dod i adnabod pawb a chlywed eu syniadau am ba ymchwil i gynnal yn y dyfodol.
Roedd yr ail gyfarfod yn gyfle i’r rhieni gael rhagor o wybodaeth am ymchwil a dulliau, ac i’r ymchwilwyr gwrdd â’r rhieni a sgwrsio am yr hyn y maent wedi’i ddysgu hyd yn hyn.
Dywedodd un o’r ymchwilwyr sy’n gweithio ar y prosiect y canlynol ar ôl iddi gwrdd â’r grŵp:
“… grŵp gwych sy’n cynnwys pobl o gefndiroedd gwahanol iawn yn rhannu eu barn a’u profiadau.”
Yn y dyfodol, byddwn yn siarad mwy am ganfyddiadau’r ymchwil gyda’r grŵp ac yn edrych ar sut y gallwn rannu’r ymchwil mewn ffordd sy’n helpu i gael effaith gadarnhaol.
Rydyn ni wedi mwynhau gweithio ar y prosiect hwn yn fawr iawn ac rydyn ni eisiau dweud diolch i’n partneriaid, EYST, am ein croesawu i’w gwasanaeth, a bod yn westeion mor wych. Rydyn ni hefyd eisiau dweud diolch yn fawr iawn i’r rhieni am gymryd yr amser i’n helpu gyda’r prosiect ymchwil pwysig hwn. Mae’r trafodaethau rydyn ni wedi’u cael hyd yma wedi bod yn ddiddorol iawn ac maen nhw eisoes wedi ychwanegu cymaint o werth at y prosiect.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda’r grŵp hwn ac i glywed y gwahanol safbwyntiau y maent yn eu cynnig, a fydd yn sicr o wella’r ymchwil ymhellach.
Os ydych yn dymuno cael rhagor o wybodaeth am y prosiect ymchwil hwn, ewch i dudalen y prosiect: Anghydraddoldeb ethnig a chrefyddol mewn gwasanaethau cymdeithasol i blant yng Nghymru: Patrymau a deilliannau — CASCADE (cascadewales.org)