Ysgrifenwyd gan Yr Athro Sally Holland 

Mae’n teimlo fel chwinciad ers i ni lansio CASCADE ym mis Mai 2014 ac mae cryn dipyn o bobl wedi gofyn i mi sut ar y ddaear y dechreuodd CASCADE. Ydych chi’n syml yn datgan bod canolfan ymchwil yn bodoli? Oes yna broses ymgeisio? Wnaeth rhywun ofyn i chi ei wneud? 

Yr ateb mewn gwirionedd yw dim un o’r uchod. Roeddwn yn Ddarllenydd mewn Gwaith Cymdeithasol yn 2013 ac wedi bod yn gweithio ar ymchwil gofal cymdeithasol plant ers gadael ymarfer gwaith cymdeithasol a dechrau fy PhD yn 1996. Nid fi oedd yr unig un ym Mhrifysgol Caerdydd oedd yn gwneud y math yma o ymchwil. Roedd y rhan fwyaf o’r darlithwyr gwaith cymdeithasol yn ymchwilio i ofal cymdeithasol plant ac roedden ni wedi dechrau cael grantiau mawr i wneud hynny. Roedd gennym hefyd nifer o fyfyrwyr PhD yn gwneud astudiaethau pwysig. 

Fodd bynnag, i’r byd y tu allan, boed hynny’n llywodraethau, yn adrannau gwasanaethau cymdeithasol neu’n bobl â phrofiad o dderbyn gwasanaethau, roedd yr holl waith ymchwil hwnnw’n gwbl anweledig gan nad oedd gennym ganolfan a’n bod yn rhan o adran gwyddorau cymdeithasol lawer mwy. Roedd rhai canolfannau da ar gyfer ymchwil gofal cymdeithasol plant yn Lloegr a’r Alban, ond dim un yng Nghymru.  

Roeddwn wedi cymryd rhan yn 2011-12 yn rhaglen ragorol Crwsibl Cymru , a roddodd yr hyder a’r sgiliau i mi feddwl ar raddfa fawr. Roeddwn yn benderfynol o weld allwn i adeiladu rhywbeth a fyddai’n gwneud y canlynol: 

  • Gwneud barn a phrofiadau plant, rhieni a gofalwyr yn ganolog i’n hymchwil 
  • Gwneud ein hymchwil yn hygyrch ac yn ddefnyddiol i weithwyr cymdeithasol, llunwyr polisi a’r cyhoedd 
  • Meithrin sgiliau ac arbenigedd mewn ymchwil yng Nghymru 
  • Gwella profiadau a chanlyniadau plant a’u teuluoedd sydd angen cymorth a gofal. 

Yn ffodus, bûm yn llwyddiannus mewn cais am absenoldeb ymchwil prifysgol yn 2012-13, ac yn ystod y cyfnod hwnnw cefais fy rhyddhau o addysgu a chael siarad â phobl oedd â phrofiad bywyd o wasanaethau, awdurdodau lleol, llywodraeth a chanolfannau ymchwil eraill i lunio’r ganolfan. Roedd ein Hysgol Gwyddorau Cymdeithasol yn gefnogol i’r cynlluniau ac fe wnaethon nhw helpu gyda rhywfaint o arian sbarduno i gyflogi gweinyddwr rhan-amser (Louisa wych, sy’n dal gyda ni, ond sydd bellach yn ymchwilydd) ac ymchwilydd i helpu i wneud cais am ein grantiau cyntaf. Rydyn ni wedi tyfu llawer ers hynny! 

Un o’r pethau cyntaf i ni ddechrau oedd y grŵp a ddaeth yn Lleisiau CASCADE (dolen) ac fe helpodd rhai pobl ifanc wych i lunio ein gwaith o’r dechrau. Fel grŵp maen nhw dal yn ganolog i’n gwaith, er bod aelodau cynnar bellach wedi symud ymlaen at bethau eraill, a’r genhedlaeth nesaf sy’n ein cynghori nawr! 

Cefnogodd Lleisiau CASCADE ein digwyddiad lansio ym mis Mai 2014, a’n siaradwr bryd hynny oedd yr Athro Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd ar y pryd, a aeth ymlaen wrth gwrs i fod yn Brif Weinidog Cymru.  

Dim ond tua mis cyn y lansiad y penderfynon ni ar yr enw CASCADE. Mae’n anodd iawn dod o hyd i enw, ond bu rhai ohonom yn arbrofi gyda rhai acronymau gwirioneddol ofnadwy nes i CASCADE ddod i’r amlwg fel yr enw perffaith! (diolch i’r Athro EJ Renold 😉). 

Gadewais CASCADE am gyfnod absenoldeb o 7 mlynedd rhwng 2015 a 2022 i fod yn Gomisiynydd Plant Cymru. Ers dychwelyd rydw i wedi mwynhau bod yn rhan o Ganolfan sydd wedi ehangu’n fawr gyda chymaint yn digwydd. Mae derbyn grantiau mawr iawn, gan gynnwys cyllid seilwaith gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (dolen) wedi gwneud byd o wahaniaeth i’n gallu i gyflawni ein nodau.  O dan arweiniad Donald Forrester, y staff anhygoel, y bobl wych â phrofiad bywyd sy’n ein cynghori, a’r awdurdodau lleol, y llywodraethau, yr elusennau a’r cyllidwyr hynod gymwynasgar sy’n cefnogi ein gwaith, mae CASCADE wedi mynd o nerth i nerth. 

Beth ddaw yn ystod y deng mlynedd nesaf, tybed?