Ysgrifennwyd gan Rachael Vaughan

Mae cynnwys y rhai sydd â phrofiad byw wedi bod wrth wraidd gwerthoedd CASCADE erioed. Hyd yn oed cyn cael ei sefydlu yn 2014, bu CASCADE yn gweithio ar y cyd â phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn Voices From Care Cymru. O ganlyniad, maen nhw’n rhan annatod o’r ganolfan. Fodd bynnag, ers hynny, mae CASCADE a’r dirwedd ymchwil ehangach wedi datblygu’n sylweddol. Mae pwysigrwydd cynnwys y cyhoedd bellach yn cael ei ddeall yn llawer fwy, ac mae hyn wedi arwain at weithio mewn gwahanol feysydd ac mewn ffyrdd gwahanol.  

Roedd cyflogi aelod o staff arbenigol i ddatblygu’r gwaith hwn yn 2018 yn gadarnhad o fwriad CASCADE i bob amser cynnwys aelodau’r cyhoedd sydd â phrofiad byw yn ein gwaith. Roeddwn i’n ffodus iawn i gael y cyfle hwn a gyda chymorth seilwaith gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru rydyn ni wedi gallu tyfu a gwneud gwaith cyffrous. Nid yw cynnwys y cyhoedd ym maes Gofal Cymdeithasol Plant yn hawdd. Mae cael staff penodol i ganolbwyntio ar hyn wedi ein galluogi i anelu at y safonau uchaf o gyfranogiad moesegol, diogel ac ystyrlon.  

Dros y blynyddoedd mae ein gwaith wedi ehangu i gynnwys datblygu rhagor o grwpiau sefydlog ac amrywiaeth o waith prosiect penodol.  

Y grŵp ychwanegol cyntaf cafodd ei sefydlu gennyn ni oedd Bwrdd Cynnwys y Cyhoedd, a hynny er mwyn ein helpu ni i feddwl am sut rydyn ni’n tyfu a datblygu ein gwaith yn CASCADE. Mae’r grŵp hwn yn parhau i ddylanwadu ar sut rydyn ni’n cynnwys y cyhoedd ac mae’n cymryd rhan gynyddol yn llywodraethu strategol y ganolfan.  

Gyda chefnogaeth y bwrdd newydd cafodd grŵp cynghori ymchwil Rhieni CASCADE ei sefydlu dros dair blynedd yn ôl. Mae wedi bod yn fraint ac yn brofiad hynod werth chweil a chraff o fy safbwynt i.  Mae’r aelodau ysbrydoledig hyn wedi sicrhau ein bod yn clywed gan leisiau na chlywir yn aml ym maes gofal cymdeithasol plant ac wedi gwella’r ffordd rydyn ni’n cynnwys y cyhoedd a gwella ein hymchwil yn CASCADE.  

Ni all y grwpiau hyn cynrychioli’r holl brofiadau bywyd rydyn ni’n eu trin a thrafod yn ein gwaith ar eu pen ei hunain. Yn ffodus, mae gennyn ni dîm o ymchwilwyr rhagorol sy’n gweithio mewn ffyrdd arloesol a chreadigol ar ystod eang o brosiectau.  

Ymhlith ein prosiectau effaith mae:  

Prosiect Louise Roberts sy’n tynnu sylw at Rieni mewn Gofal ac sy’n Gadael Gofal, gwaith Class Cymru Hannah Bayfield ,allbynnau Ymchwil Addysg Plant sy’n Derbyn Gofal (LACE), pecyn cymorth Nina Maxwell a fideos sy’n ymwneud â chamfanteisio troseddol ar blant (should we also include Lorna’s?) 

Mae ein gwaith cynnwys y cyhoedd yn parhau i dyfu, ac rydyn ni’n ffodus i gael cymaint o sefydliadau partner ymroddedig yn cefnogi ein gwaith.  

Ymhlith ein prosiectau a phartneriaethau parhaus mae:  

Peer Action Collective, grŵp gofalwyr sy’n berthynas, Llais y Teulu, grŵp Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol Cymru, grŵp Tîm Cefnogi Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (EYST)  

Yn bwysicaf oll, mae gweithio yn y swydd hon gyda’r unigolion ymroddedig ac anhygoel a ddewisodd gymryd rhan yn ein gwaith a rhannu eu profiad byw, wedi bod, ac yn parhau i fod yn fraint.