Comisiynwyd Prifysgol Caerdydd gan y Bwrdd Diogelu Cenedlaethol yng Nghymru ym mis Tachwedd 2020 i gynnal dadansoddiad amlddisgyblaethol o Adolygiadau Ymarfer Oedolion a gynhaliwyd rhwng 2014 a 2020. Mae academyddion o dair disgyblaeth wahanol yn rhan o’r astudiaeth – Gwaith Cymdeithasol (gan gynnwys profiad o ymarfer), darllen y Gyfraith a Throseddeg a chodio triphlyg Adolygiadau Ymarfer Oedolion, gan edrych am y themâu cyffredin sy’n dod i’r amlwg. Daw’r academyddion â’u gwybodaeth arbenigol am eu maes perthnasol i’r prosiect. Mae’r astudiaeth yn adeiladu ar ddau brosiect ymchwil blaenorol a gynhaliwyd gan y tîm (i) Adolygiadau marwolaeth yng Nghymru (Adolygiadau Dynladdiad Domestig, Adolygiadau Ymarfer Oedolion, Adolygiadau Dynladdiad Iechyd Meddwl) yn 2018 a (ii) Adolygiadau Ymarfer Plant yn 2019. Caiff yr ymchwil ei rhannu gydag ymarferwyr, gan ledaenu’r canfyddiadau mor eang â phosibl er mwyn cael effaith ar ymarfer yng Nghymru yn y dyfodol. Mae Dr Alyson Rees, Dr Roxanna Fatemi-Dehaghani, Dr Tom Slater a Dr Rachel Swann yn gweithio ar yr astudiaeth a disgwylir y caiff y gwaith ei gwblhau ym mis Ebrill 2021.
Disgwylir i astudiaeth bellach o Adolygiadau Ymarfer Plant ddechrau ym mis Ebrill 2021.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth hon, cysylltwch â Dr Alyson Rees