Ym mis Chwefror 2021 comisiynwyd Prifysgol Caerdydd i werthuso cyflwyniad rhaglen Meithrin Lles y Rhwydwaith Maethu ar draws Cymru. Gwerthusodd Prifysgol Caerdydd raglen beilot gychwynnol mewn Awdurdod Lleol yn ne Cymru yn 2017-2019.

Nod y rhaglen Meithrin Lles yw gwella canlyniadau plant sy’n derbyn gofal ac mae’n cynnwys cyfres o ddosbarthiadau meistr a gyflwynir i gynulleidfa amlddisgyblaethol y tîm o amgylch y plentyn. Nod y dosbarthiadau meistr yw creu iaith, dealltwriaeth a dull cyffredin o weithio gyda phlant mewn gofal maeth, yn seiliedig ar egwyddorion addysgeg gymdeithasol. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys hyfforddi gofalwyr maeth i ddod yn hyrwyddwyr gofal maeth er mwyn iddyn nhw all darparu cefnogaeth cymheiriaid i ofalwyr maeth eraill, addysgu gweithwyr proffesiynol eraill am anghenion y plentyn ac eiriol dros y plentyn mewn gofal maeth. Y ddamcaniaeth yw mai’r gofalwr maeth yn aml sydd â’r wybodaeth ddydd-i-ddydd orau am y plentyn a’i anghenion, a thrwy sicrhau bod y gofalwr maeth yn llais canolog yn y tîm o amgylch y plentyn, bod anghenion y plentyn yn cael gwell sylw. 

Mae’r gwerthusiad yn cynnwys arolwg o gyfranogwyr y dosbarth meistr, cyfweliadau, grwpiau ffocws ac astudiaethau achos. Bydd yr ymchwil yn para tan fis Mai 2022. Dr Alyson Rees, Dr Nina Maxwell  a Bridget Handley fydd yr ymchwilwyr sy’n gweithio ar y prosiect hwn. 

I gael rhagor o wybodaeth am y gwerthusiad cysylltwch â Dr Alyson Rees