Canolfan gymorth a siop goffi arloesol a arweinir ac a gyd-grëwyd gan y gymuned yw CUBE, a hynny yn nhref glan môr y Barri. Mae’n canolbwyntio ar ddefnyddio dulliau adferol er mwyn ymgysylltu â’r gymuned leol a’i grymuso, yn enwedig teuluoedd sy’n cael amser caled. Mae’n cynnal llawer o sesiynau cymorth a gweithgareddau i blant, teuluoedd, dynion a menywod. Mae’r caffi hefyd yn hyb cymdeithasol lleol.
Cyn i CUBE agor, cafodd CASCADE ei gomisiynu i adolygu ei arferion er mwyn gwerthuso ei ymagwedd at gyd-greu a defnyddio dulliau adferol.
Mae’r adroddiad terfynol a chanfyddiadau’r adolygiad hwn wedi’u cyhoeddi erbyn hyn. Mae’r adroddiad a rhagor o wybodaeth am yr ymchwil hon i’w gweld ar y dudalen sy’n rhoi gwybodaeth am agor CUBE.