Mae lles ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn achosi pryder mawr i’r cyhoedd. Gwaethygwyd hyn ymhellach gan bandemig COVID-19 yn ddiweddar a phryderon ehangach ynghylch y gostyngiad yn nifer y gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sydd ar gael. Mae prosiect dan arweiniad Dr Rhiannon Evans o DECIPHer mewn partneriaeth â CASCADE a Rhwydwaith Maethu Cymru wedi bod yn archwilio’r maes hwn yn rhan o astudiaeth o’r enw ‘Cyd-greu neu addasu ymyriadau gofal maeth ar-lein: hyrwyddo iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal’ (Prosiectau a Ariennir – Rhwydwaith Triumph (gla.ac.uk).  Roedd yr astudiaeth yn dwyn y cyhoedd ynghyd ac yn rhoi cyfleoedd ystyrlon i’r rhai â phrofiad bywyd o’r mater gyfrannu ati.  O fis Hydref 2020 i haf 2021, roedd aelod o Leisiau CASCADE, Brittany, yn gyd-ymchwilydd ar yr astudiaeth.

O gael Brittany yn gyd-ymchwilydd, gwellodd ansawdd yr astudiaeth ymchwil yn sylweddol. Dywedodd Brittany ei bod wedi mwynhau cymryd rhan a’i bod hefyd wedi elwa mewn ffyrdd sylweddol. Ers i Brittany ddechrau bod yn rhan o’r ymchwil ym mis Hydref 2020, mae wedi dechrau gweithio’n llawn amser, wedi rhoi darlith ym Mhrifysgol Caerdydd ar fod yn rhan o ymchwil ac wedi cyfrannu at weithgareddau lledaenu gwybodaeth yn rhan o rwydwaith ehangach Triumph.

Barn Brittany am ei phrofiad o fod yn gyd-ymchwilydd:

“Rwyf wedi bod yn gweithio ar yr holl ddogfennau gwybodaeth ar gyfer pobl ifanc, yn datblygu’r cwestiynau cyfweliad ac yn cyfweld ar y cyd â Rachael. Yn rhan o’r gwaith o brofi’r iaith yn y cwestiynau, cefnogais sesiwn adborth gyda grŵp pobl ifanc y Rhwydwaith Maethu.”

“Rwyf wedi dysgu sut i gyfweld â phobl a pha mor anrhagweladwy y gall cyfweliadau fod. Dyna’r peth mwyaf rwyf wedi’i ddysgu. Rwyf wedi dysgu bod ymchwil yn digwydd yn llawer arafach nag yr oeddwn yn ei feddwl.” 

“Fe wnes i a Rachael rywfaint o hyfforddiant ar sgiliau moeseg, diogelu a chyfweld.

Rwy’n meddwl fy mod yn cynnig safbwynt person ifanc – ar bopeth!”

Neges Brittany i ymchwilwyr sy’n ystyried gweithio gyda chyd-ymchwilwyr:

“Byddwn yn dweud y bydd yn fwy defnyddiol iddynt yn y tymor hir, oherwydd bod rhywun sydd â phrofiad bywyd o’r mater yn gallu siarad yr un iaith â’r rhai sy’n cymryd rhan. Gallant esbonio pethau i bobl ifanc yn well, a gallant helpu pobl ifanc ac ymchwilwyr fel ei gilydd i ddeall y gwahanol safbwyntiau.”

Mae’r prosiect hwn wedi dod i ben, a gellir dod o hyd i’r adroddiad yma. Da iawn Brittany, a diolch am eich holl waith caled a’ch cyfraniad at y prosiect hwn!


Ysgrifennwyd gan: Brittany (Peer Researcher) & Rachael Vaughan (CASCADE Engagement Manager)