Fel rhan o Grŵp Rhieni a rhwydwaith CASCADE rydym wedi cynnig y cyfle i aelodau gyfrannu at flogiau os hoffent wneud hynny. Bydd y rhain yn straeon, negeseuon neu flaenoriaethau ymchwil o’u safbwynt nhw. Gobeithiwn y bydd hyn yn digwydd yn rheolaidd ym mlog CASCADE ac y bydd yn ffordd arall i ni roi llais i’r rhai sydd â phrofiad byw o ofal cymdeithasol plant.

Mae’r wythnos hon yn Wythnos Ymadawyr Gofal, a pha bryd gwell i fyfyrio ar bwysigrwydd modelau rôl i bobl ifanc mewn gofal.

Pan fydd pobl yn meddwl am fod mewn gofal, fel arfer mae ganddyn nhw syniadau negyddol iawn ynghlwm wrth hynny. Mae pobl yn meddwl os ydych yn byw mewn gofal eich bod yn droseddwyr ac rydym yn aml yn cael ein portreadu’n negyddol yn y wasg neu’r cyfryngau. Wrth dyfu i fyny ni welais i erioed fodelau rôl cadarnhaol o bobl mewn gofal, pobl fel fi. Yn fwy diweddar, rwyf wedi dysgu am rai sêr enfawr fel Marilyn Monroe a Pierce Brosnan sydd â phrofiad o ofal.

Anfonwyd Marilyn i gartref plant amddifad am ddwy flynedd. Ar ôl hynny, bu’n byw gyda ffrind i’r teulu am bedair blynedd.

Magwyd Brosnan gan ei dad-cu a’i fam-gu o bedair oed, oherwydd i’w fam symud i ffwrdd gan ei bod yn hyfforddi i fod yn nyrs. Fodd bynnag, bu farw ei dad-cu a’i fam-gu pan oedd yn chwech oed ac ar ôl hynny, arhosodd at berthnasau amrywiol nes iddo gael ei anfon i fyw mewn tŷ preswyl nes ei fod yn 10 oed.

Dw i wir yn dymuno fy mod wedi gwybod hyn yn tyfu i fyny.

Rwy’n credu y byddai’n wych cael rhestr o bencampwyr. Pan oeddwn i yn yr ysgol, byddwn yn cael fy holi’n gyson am Tracey Beaker. Yn fy ysgol uwchradd roedd llawer o’r cyd-ddisgyblion yn genfigennus ohonof ac yn meddwl bod bod mewn gofal yn hudolus, gan nad oedd gan fy nghyfoedion fyrddau pŵl na’r PlayStation diweddaraf yn eu tŷ. Roedd gennym grantiau dillad, felly gallen ni brynu sgidiau chwaraeon newydd pan nad oedd rhai o’m cyd-ddisgyblion yn gallu gwneud hynny. Ond yr hyn nad oeddent yn ei ddeall oedd y cyfan roeddwn i eisiau oedd teulu cariadus gartref, rhywun i gymryd yr amser i weld sut oedd fy niwrnod a phryd teuluol gyda’n gilydd. Roeddwn i eisiau amgylchedd cartref a oedd yn dawel, yn sefydlog ac yn ddiogel. Yn fy nghartref preswyl doeddwn i byth yn gwybod a fyddai rhywun yn dechrau ffrae neu beth roeddwn i’n mynd adref iddo. Rwy’n teimlo bod y profiad cyfan wedi gwneud i mi dyfu i fyny yn gyflymach na fy nghyfoedion.

Fy modelau rôl ar y pryd oedd y staff yn fy nghartref plant — dw i’n ‘difaru peidio â gwybod bryd hynny am yr holl unigolion anhygoel mas ‘na sydd â phrofiad o ofal. Gallai fod wedi fy ngwthio i weithio’n galetach a’m hysbrydoli i anelu’n uwch, yn hytrach na dim ond derbyn y cyfyngiadau mae’r ystadegau’n eu hawgrymu ynghylch plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Rwyf am i bawb gofio’r bobl ifanc y tu ôl i’r ystadegau a gwneud ymdrechion i rannu straeon cadarnhaol!


Ysgrifennwyd gan: Jen, Grŵp Rhieni CASCADE

Wrth gwrs, rydym yn credu bod Jen a’r holl bobl sy’n gadael gofal sy’n cymryd rhan yn ein gwaith yn fodelau rôl anhygoel ac ni allen ni ei wneud hebddyn nhw.