Mae hi’n ddeufis tan y Nadolig ac mae rhai gwirfoddolwyr yng Nghaerdydd yn gwneud cynlluniau i atal unigrwydd ymysg rhai oedolion ifanc fydd ddim yn treulio Dydd Nadolig gyda’u teuluoedd. Mae apêl yn cael ei lansio heddiw (24 Hydref) ar gyfer Cinio Nadolig Caerdydd. Bydd Cinio Nadolig Caerdydd yn cynnig bwyd, anrhegion, gweithgareddau a  chwmni i bobl ifanc sydd â phrofiad gofal yng Nghaerdydd a’r cyffiniau ar ddydd Nadolig 2022. 

Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn rhai a fu’n byw mewn gofal maeth, gofal sy’n berthnasau neu gartrefi plant wrth dyfu i fyny, ac felly gallent fod yn fwy tebygol o brofi arwahanrwydd cymdeithasol fel oedolion. Maen nhw ddwywaith yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn  teimlo’n unig y rhan fwyaf neu drwy’r amser na phobl ifanc eraill yn y boblogaeth gyffredinol. 

Mae grŵp o wirfoddolwyr, sy’n cael eu hadnabod fel ‘lletywyr’ gyda gwybodaeth am anghenion pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, yn cydweithio er mwyn sicrhau y bydd llai o oedolion ifanc yn ardal Caerdydd ar eu pennau eu hunain ar Ddydd Nadolig. Mae’r gwesteiwyr yn gweithio yng nghanolfan ymchwil gofal cymdeithasol plant CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd ac amrywiaeth o elusennau gan gynnwys Plant yng Nghymru, Voices from Care a NYAS Cymru. Mae gan rai o’r gwesteiwyr brofiad o ofal maeth neu ofal preswyl ac maen nhw’n deall pa mor anodd y gall tymor yr ŵyl fod.

Meddai J. 20 oed o dde Cymru:

“O’n i wastad yn mynd i fy Nana’s ar gyfer y Nadolig ond ers iddi basio, dwi byth yn gwybod. Dwi wedi bod i gyn-ofalwr maeth ambell waith ond dyw hi ddim wedi gofyn i mi eto eleni felly efallai y bydda i ben fy hun ar Ddydd Nadolig. Byddwn i’n casáu hynny, yn enwedig gan fy mod i’n cael trafferth am arian ar hyn o bryd.”

Ychwanegodd Lorna Stabler, ymchwilydd yn CASCADE: 

“Pan mae pobl ifanc yn cyrraedd 18 oed, maen nhw’n dal i fyw gartref gyda’u rhieni, ac yn cael lle i ddychwelyd iddo ar gyfer digwyddiadau fel y Nadolig. Am lawer o resymau, nid oes gan bobl sy’n profi gofal bob amser y sylfaen honno – ac weithiau gallent deimlo fel  ôl-ystyriaeth, eu bod yn ymwthio ar ddathliad rhywun arall, neu heb le i fynd. Ry’n ni am lunio digwyddiad ar gyfer Diwrnod Nadolig sydd wir  yn arbennig, ac yn dathlu’r gymuned hyfryd sydd â phrofiad o ofal yma yng Nghymru.” 

Mae’r cinio a’r gweithgareddau wedi’u hysbrydoli gan giniawau tebyg mewn amrywiaeth o ddinasoedd Lloegr. Y bardd enwog Lemn Sissay, sydd wedi ysgrifennu’n helaeth am ei brofiadau ei hun o dyfu fyny mewn gofal, cychwynnodd y mudiad. Cinio Nadolig Caerdydd fydd y cinio Cymraeg cyntaf a gobaith y gwesteiwyr, os yw’n llwyddiant, yw y bydden nhw’n gallu cefnogi gweithgareddau Diwrnod Nadolig tebyg mewn rhannau eraill o Gymru yn y dyfodol.

Bydd gwesteion, rhwng 18-25 oed, a fyddai ar eu pennau eu hunain fel arall ar ddydd Nadolig, yn cael gwahoddiad os ydynt o fewn radiws 30 milltir o Gaerdydd, a bydd trafnidiaeth yn cael ei ddarparu ar eu cyfer. Byddant yn derbyn anrhegion, cinio a gweithgareddau hwyliog. 

Esboniodd Sally Holland, Athro Gwaith Cymdeithasol yng nghanolfan ymchwil CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd, ei chymhelliant dros wirfoddoli:

“‘Wna i byth anghofio clywed gan oedolyn ifanc oedd yn egluro sut y gwnaethon nhw dreulio cyfnod y Nadolig ar ôl gadael gofal maeth ar ben eu hun mewn bedsit, wedi dychryn gan synau yn y nos, a pheidio â gwybod sut i ddelio â thap oedd yn diferu. Mae llawer o ofalwyr maeth yn gwneud gwaith anhygoel yn croesawu oedolion ifanc yr oedden nhw’n gofalu amdanynt yn y gorffennol yn ôl, ond nid yw pob un yn gallu.  Fyddwn i byth eisiau i fy mhlant i fod ar eu pennau eu hunain adeg y Nadolig, a dyna pam dwi’n gwirfoddoli gyda Swper Nadolig Caerdydd.’

Mae’r gwirfoddolwyr yn codi arian ar gyfer y digwyddiad, gydag arian sy’n cael ei godi’n cael ei reoli gan yr elusen gofrestredig Voices from Care. Maent hefyd yn chwilio am arlwywr, yn ogystal ag anrhegion ac addurniadau o safon uchel ar gyfer y digwyddiad. Gall unrhyw un sy’n dymuno helpu anfon e-bost at thecardiffchristmasdinner@gmail.com.

Nodiadau

Mae gwirfoddolwyr o’r grŵp ar gael ar gyfer cyfweliadau i’r wasg yn Gymraeg a Saesneg. Cysylltwch â Sally Holland 07974279666 // HollandS1@cardiff.ac.uk