Mae Cascade yn falch iawn o gyhoeddi ein bod yn cynnal y drydedd Gynhadledd flynyddol ar-lein ynghylch Dadansoddi Sgwrs a Gwaith Cymdeithasol, ar 16 Mawrth 2023.

Cynhelir gwaith cymdeithasol yn aml iawn trwy sgyrsiau, rhwng grwpiau o weithwyr cymdeithasol, rhwng gweithwyr cymdeithasol a phobl broffesiynol eraill ac wrth gwrs rhwng gweithwyr cymdeithasol a phobl sy’n defnyddio gwasanaethau. Mae dadansoddi sgyrsiau yn caniatáu inni archwilio natur y gwaith hwn yn systematig mewn amrywiaeth o leoliadau sefydliadol, cenedlaethol, a diwylliannol, ac mewn perthynas â llawer o wahanol agweddau ar ymarfer.

Bydd y drydedd gynhadledd flynyddol CASW yn lleoliad ar gyfer cyfnewid canfyddiadau ymchwil a man casglu ar gyfer trafodaethau rhwng ymchwilwyr a myfyrwyr doethurol sy’n gweithio gyda dadansoddi sgyrsiau a gwaith cymdeithasol.

I gael gwybod mwy am y gynhadledd, i gofrestru ar gyfer y rhestr bostio, neu i gyflwyno crynodeb, gweler gwefan CA+SW.