Dros y ddau ddegawd diwethaf yn y DU ac mewn mannau eraill, mae pwysigrwydd cynnwys plant, pobl ifanc a rhieni yn y broses o wneud penderfyniadau gwaith cymdeithasol wedi’i gydnabod yn gynyddol. O gael eu galluogi a’u cefnogi i gymryd rhan, gall plant, pobl ifanc a rhieni chwarae rhan hanfodol wrth gynllunio a chyflenwi gwasanaethau. Mae ymgysylltu a chyfranogi gwell yn gadael i rieni, plant a phobl ifanc gael dylanwad ystyrlon ar benderfyniadau am eu bywydau (Kennan et al. 2016; McDowall 2016), ac mae’n helpu i feithrin perthynas rhwng teuluoedd a gweithwyr proffesiynol (Stabler et al 2019).

Fodd bynnag, mewn sawl astudiaeth ymchwil, mae rhieni a phlant wedi dweud bod y broses diogelu plant yn gwneud iddynt deimlo dan straen, wedi’u hymyleiddio a dan ormes (Corby et al 1996, Cossar et al 2011, Appleton et al 2016, Gibson 2014, 2020, Muench et al 2017, Diaz 2020). Yn fy ymchwil ddiweddar innau, yn seiliedig ar gyfweliadau gyda 52 o rieni a 40 o blant mewn dau awdurdod lleol, cytunodd y rhan fwyaf fod cynadleddau diogelu plant yn benodol yn ormesol (Muench et al 2017, Diaz 2020).  Mae’r teimladau negyddol hyn at y cynadleddau diogelu’n gwneud rhieni a phlant yn anfodlon cymryd rhan ynddynt ac yn cael effaith negyddol ar gyfleoedd i feithrin perthynas waith gadarnhaol gyda gweithwyr cymdeithasol. Mae’r canfyddiadau hyn yn adleisio rhai a wnaed yn flaenorol dros flynyddoedd lawer (Corby et al 1996, Cossar et al 2011, Appleton et al 2016, Gibson 2014), sy’n awgrymu er gwaethaf ymdrechion gorau llawer o bobl, nad yw’r broses diogelu plant, a’r cynadleddau diogelu yn benodol, yn ddefnyddiol i deuluoedd.

Ffocws y cynadleddau hyn aml yw  bod gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill yn siarad am y risg mae’r plentyn ynddo. Tua diwedd y cyfarfod, yn aml ceir rhyw fath o bleidlais (i’r gweithwyr proffesiynol yn unig) i benderfynu a yw’r plentyn ‘mewn perygl o niwed sylweddol’. Yn anochel mae’r broses hon yn cynnwys rhannu llawer o wybodaeth negyddol am y rhieni. Gall hyn arwain at deimladau o gywilydd a chael eu beio, gan lesteirio ymdrechion gweithwyr cymdeithasol i ddatblygu perthnasoedd o ymddiriedaeth (Diaz 2020). 

Efallai y byddai’n fwy derbyniol os byddem ni’n gwybod bod y cynadleddau diogelu o leiaf yn effeithiol, drwy gadw plant yn ddiogel. Does dim ymchwil wedi’i chyhoeddi sy’n dangos bod y cynadleddau diogelu’n diogelu plant.

Dewis amgen fyddai cynnal Cynadleddau Grŵp Teuluol yn lle. Yn gyffredinol mae rhieni’n derbyn y cynadleddau grŵp teuluol yn well, gallant helpu teuluoedd yn fwy effeithiol i wneud penderfyniadau ac yn y pen draw arwain at berthnasoedd llai gelyniaethus. Mae gan gynadleddau grŵp teuluol y potensial i greu deialog rhwng teuluoedd a’r gweithwyr proffesiynol, gan alluogi i ddisgwyliadau gwahanol y gweithwyr proffesiynol ac aelodau o’r teulu gael eu cyfuno a chael yr un pwysau.

Mae’r dystiolaeth am effeithiolrwydd cynadleddau grŵp teuluol a chyfranogol eraill mewn gwirionedd yn amhendant (Nurmatov et al 2020). Fodd bynnag, does dim tystiolaeth fod cyfarfodydd teuluol o’r fath yn cynyddu’r risg o niwed i blant (e.e. arwain at atgyfeiriadau diogelu plant). Gellir egluro’r dystiolaeth gymysg ar ganlyniadau gan ansawdd gymysg y ddarpariaeth ac os felly, mae hyn yn dangos ymhellach bwysigrwydd hwyluso cynadleddau grŵp teuluol yn effeithiol i gynyddu cyfranogiad y teulu (Nurmatov et al 2020).

Fy argymhelliad i yw ein bod yn dod ag arfer cyffredinol y cynadleddau diogelu plant i ben ac yn rhoi’r cynadleddau grŵp teuluol ar waith yn gyffredinol yn eu lle.

Cyfeiriadau

Appleton, J.V. (2015). Working alongside one another. Child Abuse Review.  24 (5).

Corby, B., Millar, M., & Young, L. (1996). Parental participation in child protection work: Rethinking the rhetoric. The British Journal of Social Work26(4), 475-492.

Cossar, J., Brandon, M. and Jordan, P. (2011). ‘Don’t make assumptions’: children’s and young people’s views of the child protection system and messages for change. Norwich: Office of the Children’s Commissioner, CRCF.

Diaz, C. (2020). Decision making in child and family social work: perspectives on participation. Policy Press.

Gibson, M (2018) The Role of Pride, Shame, Guilt, and Humiliation in Social Service Organizations: A Conceptual Framework from a Qualitative Case Study, Journal of Social Service Research, 10.1080/01488376.2018.1479676, 45, 1, (112-128), 

Kennan, D., Brady. B., and Forkan, C. (2016) Exploring the Effectiveness of Structures and Procedures Intended to Support Children’s Participation in Child Welfare, Child Protection and Alternative Care Services: A Systematic Literature Review. Galway: The UNESCO Child and Family Research Centre, The National University of Ireland, Galway.

McDowall, Joseph. (2016). Are we listening? The need to facilitate participation in decision-making by children and young people in out-of-home care. Developing Practice. 44. 77–93.

Mitchell M., (2020)  Reimagining child welfare outcomes: Learning from Family Group Conferencing. Child & Family Social Work. 2020;25:211–220. https:// doi.org/10.1111/cfs.12676

Muench, K., Diaz, C. and Wright, R. (2017). Children and parent participation in child protection conferences: a study in one English local authorityChild Care in Practice 23 (1), pp. 49 – 63.

Nurmatov, U.et al. (2020). Impact of shared decision-making family meetings on children’s out-of-home care, family empowerment and satisfaction: a systematic review. Project Report. [Online]. London: What Works Centre for Children’s Social Care. Available at: https://whatworks-csc.org.uk/wp-content/uploads/WWCSC_Family_Group_Conferencing_Report.pdf

Stabler, L.et al. (2019). Shared decision-making: What is good practice in delivering meetings? Involving families meaningfully in decision-making to keep children safely at home: A rapid realist review. Technical Report.