Mae Dr Heather Taussig, ymchwilydd o’r Unol Daleithiau ym maes gofal cymdeithasol i blant, wedi ymuno â CASCADE am 4 mis ar gymrodoriaeth Fulbright. Mae Dr Taussig yn Athro yn Ysgol Gwaith Cymdeithasol Graddedigion Prifysgol Denver ac yn athro atodol yng Nghanolfan Kempe ar gyfer Atal a Thrin Cam-drin ac Esgeuluso Plant. Mae Taussig yn bwriadu cynnal ymchwil ar y cyd ag ymchwilwyr CASCADE i ddatblygu rhaglenni atal mwy arloesol a sensitif yn eu cyd-destun ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.

Mae gyrfa Taussig wedi canolbwyntio ar greu a defnyddio tystiolaeth i wella canlyniadau plant sydd wedi profi camdriniaeth a chael eu gosod mewn gofal maeth. Ugain mlynedd yn ôl, cynlluniodd Taussig Fostering Healthy Futures® (FHF), rhaglen mentora a hyfforddiant sgiliau i bobl ifanc mewn gofal. Ers hynny, rhoddwyd y rhaglen ar brawf mewn tri hapdreial rheoledig ac mae wedi dangos nifer o ganlyniadau cadarnhaol, gan gynnwys gwell iechyd meddwl, sefydlogi lleoliadau, a llai o dramgwyddo ymhlith y bobl ifanc yn y grwpiau atal.

Mae’r dyfarniad Fulbright yn gyfle i Taussig edrych o’r newydd ar rywfaint o’r data meintiol, ansoddol a phroses helaeth y mae ei thîm wedi’u casglu dros y ddau ddegawd diwethaf, gan gynnwys data o astudiaeth ddilynol 10 mlynedd gydag oedolion ifanc a osodwyd mewn gofal maeth yn ystod y cyfnod cyn glaslencyndod. Mewn cydweithrediad â’i chydweithwyr newydd yn CASCADE, bydd yn archwilio data FHF i ddeall yn well beth sy’n rhagweld llwyddiant hirdymor ymhlith plant mewn gofal maeth, a sut, i bwy, ac o dan ba amodau y mae ymyriadau’n gweithio i bobl ifanc amrywiol.

Mae diddordebau Taussig yn gorgyffwrdd â sawl maes arbenigedd yn CASCADE a DECIPHer gan gynnwys: (1) Cynnal RCTs trylwyr o fewn gofal cymdeithasol plant, (2) Datblygu, gwerthuso a gweithredu ymyriadau cymhleth, (3) Addasu ac effeithiolrwydd ymyriadau ar sail tystiolaeth mewn cyd-destunau trawsddiwylliannol, (4) Archwilio safonau ar gyfer “yr hyn sy’n gweithio,”(6) Hyfforddi myfyrwyr gwaith cymdeithasol ôl-raddedig mewn ymarfer, (7) Harneisio llais/mewnbwn pobl ifanc mewn ymdrechion ymchwil, (8) Cysylltu data gweinyddol ar draws sectorau gwasanaeth i ateb cwestiynau allweddol o ddiddordeb, a (9) Lledaenu canfyddiadau ymchwil mewn ffyrdd sy’n hawdd i ymchwilwyr, llunwyr polisi, ymarferwyr a’r cyhoedd eu deall.

Ei gobaith yw meithrin cysylltiadau newydd rhwng CASCADE a Chanolfannau yn ei thalaith enedigol yn Colorado gan gynnwys Canolfan Kempe ar gyfer Atal a Thrin Cam-drin ac Esgeuluso Plant , y Ganolfan Ymyriadau Effeithiol aSefydliad Teuluoedd Butler.

Yn ogystal â gwella gallu’r UD/DU i gydweithio ar ymchwil drawsddiwylliannol effeithiol, dylai gwaith Taussig yn CASCADE trwy ei Dyfarniad Ysgolhaig Fulbright hefyd ein helpu i gyflawni ein cenhadaeth gyffredin sef gwella canlyniadau pobl ifanc a theuluoedd bregus, a thrwy hynny leihau’r costau i gymdeithas a maethu dyfodol iach i fwy o bobl ifanc.

Dr Heather Taussig