Ar 6 Hydref bu’r Athro Sally Holland yn cadeirio ac yn cynnal achlysur i lansio adroddiad terfynol Rhaglen Polisi Plentyndod yr Academi Brydeinig yn adeilad Spark|Sbarc. Roedd y rhaglen wedi canfod gwahaniaethau sylweddol ar draws gwledydd y DU o ran sut mae llywodraethau’n deall plentyndod ac yn datblygu polisïau. Mae’r ffyrdd o roi hawliau plant ar waith yng Nghymru a’r Alban, sydd wedi’u hymgorffori’n rhan o brosesau llunio polisïau, wedi arwain at ddeddfwriaeth a chamau megis gwahardd cosbi plant yn gorfforol yn y cartref yn ogystal â chwricwlwm newydd Cymru.

Ymhlith y prif siaradwyr roedd cynrychiolwyr o Gyngor Ieuenctid Caerdydd, Senedd Ieuenctid y DU a Senedd Ieuenctid Cymru, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS, a’r Farwnes Athro Ruth Lister.

Roedd tua 50 o gynrychiolwyr o fyd llywodraeth, y Senedd, y byd academaidd a’r trydydd sector yn bresennol, gan arwain at drafodaeth fywiog am lwyddiannau Cymru, yr hyn y dylid ei wneud yn rhagor a’r berthynas rhwng llunio polisïau yng Nghymru a’r DU. Roedd gan y siaradwyr ieuenctid negeseuon cryf am effaith, gwerthuso, anghydraddoldeb a chymryd rhan go iawn, a hynny yn sgîl eu profiadau eu hunain o gymryd rhan yn y gwaith o graffu a datblygu polisïau.