• Croeso Elaine

    Elaine yw fy enw i a dechreuais yn CASCADE ddiwedd mis Mawrth. Fy rôl i yw cefnogi cyfranogiad pobl sydd â phrofiad o ddefnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol mewn ymchwil. Byddaf yn gwneud hyn drwy weithio gyda phobl ifanc a rhieni. Mae’r grwpiau’n cynghori ar wahanol gamau ymchwil, er mwyn sicrhau ei fod yn berthnasol, yn… Read More

  • Y 4C

    Teimlai pobl ifanc y dylai gofalwyr wybod beth yn union y mae person ifanc wedi bod yn delio ag ef ynghyd â’u hoff a’u cas bethau a sut i ofalu a chyfathrebu â phobl ifanc. Roeddent yn teimlo y dylai gofalwyr fod yn garedig, yn hapus ac yn ysgogol. O ran yr hyn y dylai… Read More

  • Negeseuon allweddol

    Rydym wedi gwneud llawer o gynnydd o ran rhannu’r siarter ar draws Cymru ac yn ehangach, mae rhai o’r uchafbwyntiau’n cynnwys:  Prosiect Negeseuon Allweddol   Yn y rhan newydd hon o’r prosiect, a ddechreuwyd ym mis Ionawr 2022, rydym wedi partneru gyda Voices From Care Cymru, NYAS Project Unity a grŵp Ohana o LA Swydd Hertford.… Read More

  • TRIUMPH Fest

    Dyluniwyd ‘TRIUMPH Fest’ yng Nghaeredin fel cyfle i ddod â phobl ifanc, llunwyr polisi ac ymchwilwyr ynghyd i rannu dysgu am iechyd meddwl pobl ifanc. Roedd yn ddigwyddiad deuddydd a ddyluniwyd ac a arweiniwyd gan Grŵp Cynghori Ieuenctid TRIUMPH. Roedd yn cynnwys cyflwyniadau a stondinau a oedd yn tynnu sylw at y gwaith mae pobl… Read More

  • Y Daith hyd yn hyn yn gyd-ymchwilydd – cymryd rhan

    Rwy’n un o’r aelodau a sefydlodd y Bwrdd Cynghori Teuluoedd (grŵp FAB), yn Camden yn 2014 a deuthum yn gydlynydd y grŵp FAB yn ddiweddar, yn aelod lleyg o Bartneriaeth Diogelu Plant Camden, ac yn Eiriolwr hyfforddedig dros Rieni ar gyfer Cynadleddau Amddiffyn Plant. Rwyf hefyd yn Ymgyrchydd dros Berthnasoedd ac yn hyrwyddo Cynadleddau Grwpiau Teuluol, Eiriolaeth dros Rieni, Cyfranogiad Rhieni, ac yn defnyddio fy mhrofiad trwy berthnasoedd a gweithio ar y cyd ag eraill i gyflawni newid cymdeithasol.

  • Dychwelyd i CASCADE

    Ar ôl  ‘absenoldeb’ hir o 7 mlynedd fel Comisiynydd Plant Cymru, rwyf i wedi dychwelyd yn ddiweddar i Brifysgol Caerdydd a Chanolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant CASCADE i ailafael yn y bywyd academaidd.

  • Gweithdai Cydgynhyrchu Family VOICE

    Mae prosiect Family Voice wedi bod yn brysur yn trefnu gweithdai cydgynhyrchu yn Camden ac yng Ngogledd Cymru.

    Delyth yw fy enw i a fi yw’r Ymchwilydd Cymheiriaid yng Ngogledd Cymru, gyda chefnogaeth Y Bont. Rwyf wedi bod yn gwahodd teuluoedd o Ogledd Cymru sydd wedi cael profiad o fynychu Cynhadledd Grŵp Teulu i ymuno â’r prosiect. Mae’r teuluoedd wedi bod yn rhoi adborth ar y Broses Grwpiau Teuluol, gan drafod paratoi, cynnwys, a’r canlyniadau o’u safbwynt nhw.

  • Camerâu’n Troi … Galluogi Cyfranogwyr Cynnwys y Cyhoedd yn Ddigidol

    Fis diwethaf, cafodd ein tîm anhygoel o Rieni Cynnwys y Cyhoedd, yn rhan o Grŵp Cynghori ar Ymchwil i Rieni CASCADE,y cyfle i ddatblygu sgiliau digidol a allai gael eu defnyddio i gefnogi eu hymwneud â’r cylch ymchwil cyfan yn CASCADE. Gobeithio y gallai’r sgiliau hyn, yn y pen draw, alluogi’r grŵp i gyfrannu, gan gynnwys rhannu eu hymchwil a’u profiadau eu hunain. Gobeithio hefyd y bydd y sgiliau hyn yn eu helpu i ddatblygu eu diddordebau, eu gyrfaoedd a’u hyder.

  • Nod cyffredin i wneud y byd yn lle gwell.

    Fel rhan obrosiect ymchwil CASCADE Dr Nina Maxwell, gwahoddwyd saith ymchwilydd cymheiriaid o Peer Action Collective (PAC) o Academi Cyfryngau Cymru (MAC) i ‘sbarc|spark’. Nod y diwrnod oedd dysgu mwy am eu hymchwil atal trais ieuenctid ac archwilio ffyrdd y gallwn gydweithio.

  • Rydyn ni’n siarad yr un iaith

    Mae lles ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn achosi pryder mawr i’r cyhoedd. Gwaethygwyd hyn ymhellach gan bandemig COVID-19 yn ddiweddar a phryderon ehangach ynghylch y gostyngiad yn nifer y gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sydd ar gael. Mae prosiect dan arweiniad Dr Rhiannon Evans o DECIPHer… Read More