Ym mis Rhagfyr, fe ddaeth Grŵp Cynghori Ymchwil Rhieni CASCADE ynghyd ar stad ddiwydiannol ar gyrion Caerdydd i roi tro ar grochenwaith.

Arweiniodd tîm Cardiff Pottery Workshop ni yn fedrus drwy ymarfer creu â llaw a’n cyflwyno i’r olwyn drydan! Nod y diwrnod oedd dathlu’r hyn mae’r grŵp hwn wedi’i gyflawni drwy gydol y flwyddyn, dweud diolch a helpu i ddatblygu’r undod arbennig sydd rhwng yr aelodau.

Cafodd ein grŵp rhieni ei ffurfio ym mis Rhagfyr 2020. Dros y tair blynedd diwethaf mae’r grŵp wedi bod yn hollol greiddiol wrth helpu i gyfarwyddo, trosi a rhannu ymchwil a wnaed yn CASCADE. Â hwythau’n rheini, mae eu profiad o ofal cymdeithasol plant, a’u hymrwymiad i’r grŵp yn hanfodol i sicrhau bod ein gwaith yn gallu gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau eraill.

Y llynedd, roedd y grŵp wedi cyfarfod 12 gwaith i drafod ymchwil ac effaith ar themâu fel eiriolaeth rhieni, plant sy’n dychwelyd adref ar ôl derbyn gofal, asesiadau cyn geni, ymarfer ym maes gwaith cymdeithasol, syniadau am brosiectau yn y dyfodol yn CASCADE a llawer mwy! Mae aelodau o’n grŵp hefyd wedi dod yn eiriolwyr dros newid mewn llefydd eraill, gan gynrychioli rhwydweithiau eiriolaeth rhieni, bod yn aelodau o fyrddau crwn y Senedd a bod yn bresennol mewn digwyddiadau eraill sy’n ymwneud â’r cyhoedd.

Yn eu gwaith maen nhw’n tynnu ar brofiadau bywyd trawmatig er mwyn ceisio ysgogi newid cadarnhaol. Gall hyn fod yn waith anodd a heriol. Mae’n gofyn am drugaredd ac ymddiriedaeth gan bawb yn y grŵp. Mae’r rhan fwyaf o’n sesiynau’n digwydd ar-lein, sy’n golygu bod y cyfle i gwrdd ac ymlacio gyda’n gilydd yn bwysicach fyth. Mae’r ddeinamig yn y grŵp hwn yn arbennig iawn ac yn rhywbeth rydyn ni’n awyddus i’w ddatblygu.

Roedd ein tiwtoriaid crochenwaith, Elen a James yn amyneddgar iawn gyda ni wrth i ni sgwrsio, gwneud jôcs a gwrando ar eu cyfarwyddiadau… o bryd i’w gilydd! Rhywsut, yn fwy trwy lwc na dim arall, fe wnaethom ni i gyd lwyddo i greu potiau torchog hardd â llaw. Fe lwyddodd y rhan fwyaf o’r rhieni i greu rhywbeth ar yr olwyn drydan hefyd. Er, mae’r profiad yn sicr yn werth llawer mwy na’r powlenni y gwnaethon ni’u creu! Mae’n anoddach na mae’n ymddangos yn y gwersi dangos!

Yna, fe wnaeth Cardiff Pottery Workshops, yn garedig, ffwrndanio a gwydro’r rhain gan roi gwybod i ni ym mis Ionawr eu bod yn barod. Â bygythiad o swigod aer yn ffrwydro a nifer o ddarnau o ddiferion plastr a allai ddinistrio’r crochenwaith, mae’n wyrth fach bod pob un o’n powlenni wedi goroesi! Ac maen nhw’n edrych yn wych, yn ein barn ni!

Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r rhieni anhygoel sy’n cyfrannu at ein grŵp. Ein nod yw parhau i ddatblygu’r gwaith hwn ac rydyn ni wedi ymrwymo i roi cyfleoedd i’n haelodau Cynnwys y Cyhoedd ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i rannu eu llais, cydweithio ac ymgysylltu ag ymchwil.