Fel gweithiwr ieuenctid a chymunedol cymwysedig, rwyf i wedi bod â diddordeb erioed mewn gweithio gyda phobl ifanc sy’n cael trafferth gydag addysg ffurfiol, ac sydd ar y cyrion neu heb gynrychiolaeth ddigonol mewn ymchwil. Ar gyfartaledd, mae’n hysbys yn eang fod addysg yn anodd i lawer o blant mewn gofal. Yr hyn nad yw’n cael ei ddeall gystal yw’r hyn sy’n digwydd i blant mewn gofal sy’n cael eu heithrio o addysg brif ffrwd yn llwyr ac sy’n treulio amser mewn unedau cyfeirio disgyblion (UCD). 

Diolch i gymrodoriaeth ôl-ddoethurol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, dros y tair blynedd nesaf byddaf i’n archwilio profiadau addysgol a llwybrau’r bobl ifanc hyn yng Nghymru. Byddaf yn cyfarfod â phobl ifanc yn eu blwyddyn ysgol olaf yn yr UCD; ar ddechrau eu blwyddyn gyntaf mewn cyrchfan newydd; ac unwaith eto 12 mis yn ddiweddarach. Bydd fy ymchwil hefyd yn cynnwys cyfweliadau gyda gweithwyr proffesiynol, ac yn cysylltu setiau data drwy gydweithio gyda thîm y Gronfa Ddata Cysylltu Gwybodaeth Ddienw yn Ddiogel ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd hyn yn fy helpu i ddeall y cyd-destun hanesyddol yng Nghymru mewn perthynas â nifer y bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal sydd wedi mynychu UCD, a beth sy’n digwydd iddyn nhw ar ôl gadael. 

Mae’r ymchwil yn estyniad o fy PhD, pan dreuliais i flwyddyn mewn UCD, yn archwilio rolau ac arferion y gweithwyr proffesiynol a phrofiadau’r bobl ifanc. Amlygodd fy PhD y ffyrdd y gallai’r UCD ail-ennyn diddordeb pobl ifanc mewn dysgu, drwy ofal a phrofiadau perthynol cadarnhaol. Daeth yn glir hefyd mai ychydig oedd yn wybyddus am yr hyn oedd yn digwydd nesaf i’r bobl ifanc hyn, unwaith iddyn nhw adael yr amgylchedd cefnogol hwn.

Gobeithio y bydd fy ymchwil yn gallu llywio polisi yng Nghymru, mewn perthynas ag arferion eithrio mewn ysgolion a llwybrau addysgol pobl ifanc â phrofiad o ofal.  Rwyf i hefyd yn bwriadu datblygu gwell dealltwriaeth am ffyrdd cynaliadwy o bontio ôl-16 i bobl ifanc sy’n gadael UCDau, gan amlinellu’r rhwystrau a’r hwyluswyr allweddol sy’n bodoli.  Yn olaf, rwyf i am i’r astudiaeth weithredu fel llwyfan i leisiau’r myfyrwyr eu hunain, er mwyn iddyn nhw allu rhannu eu profiadau, eu dyheadau a’u barn ar bontio ôl-16. Yn y modd hwn, bydd yr ymchwil yn amlinellu’r hyn sy’n bwysig i bobl ifanc a sut maen nhw’n llywio drwy’r cyfnod hwn yn eu bywydau.

Ysgrifennwyd gan Phil Smith