Ychydig iawn o ymchwil sydd wedi’i chynnal ar brofiadau a chanlyniadau plant awtistig mewn gofal maeth neu ofal gan berthynas. Mae hwn yn faes rwyf i’n angerddol drosto ers tro ac mae’n gyffrous cael dechrau prosiect newydd, diolch i gymrodoriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru dros dair blynedd.

O’r ymchwil sy’n bodoli a sgyrsiau gyda phobl ifanc ac elusennau, mae’n ymddangos ei bod yn aml yn anodd i blant mewn gofal maeth neu berthynas gael diagnosis o awtistiaeth, yn enwedig gan fod yr ymddygiadau a gyflwynir yn gysylltiedig ag awtistiaeth yn gallu bod yn debyg i ymddygiadau a gysylltir yn aml â thrawma cynnar neu anawsterau ymlyniad. O ganlyniad, gall fod yn heriol i’r grŵp hwn o blant a’u gofalwyr maeth neu berthynas fanteisio ar y gwasanaethau gorau i’w cefnogi. Gall diffyg dealltwriaeth o awtistiaeth a nodweddion awtistig hefyd atal gofalwyr maeth a pherthynas rhag cefnogi plant yn effeithiol gartref. Gall hyn arwain at lefelau uchel o straen ar y teulu a gosod y lleoliadau maeth a pherthynas mewn perygl o chwalu.

Bydd tair prif ran i’r prosiect:

  1. Bydd y rhan gyntaf yn cynnwys dadansoddi cronfeydd data mawr i greu dealltwriaeth o gyfraddau diagnosis o awtistiaeth mewn plant sydd mewn gofal ar hyn o bryd a’r canlyniadau i’r grŵp hwn o bobl ifanc pan fyddan nhw’n gadael gofal.
  2. Bydd yr ail ran yn cynnwys arolwg o ofalwyr maeth a pherthynas yng Nghymru. Bydd hyn yn arwain at ddeall patrymau nodweddion awtistig pobl ifanc mewn gofal maeth a pherthynas ledled Cymru a sut mae’r rhain yn gysylltiedig â mesurau eraill, gan gynnwys anawsterau ymlyniad a straen rhieni.
  3. Yn y drydedd ran, byddaf yn cynnal cyfweliadau gyda grwpiau ffocws o ofalwyr maeth a pherthynas, gweithwyr cymdeithasol a phobl ifanc. O’r rhain, y nod yw cael dealltwriaeth o’r broses bresennol ar gyfer cefnogi plant awtistig a’r rheini sydd â lefelau uchel o nodweddion awtistig, a’r hyn sydd angen ei newid i wella’r polisïau a’r gweithdrefnau presennol.

Bydd tair rhan y Gymrodoriaeth gyda’i gilydd yn darparu dealltwriaeth fanwl o’r nifer o blant sy’n profi anawsterau, beth yw’r heriau mwyaf i’r plant hyn, a’r ffordd orau i’w cefnogi nhw a’u gofalwyr i gael y canlyniadau gorau drwy gydol eu plentyndod hyd at ddod yn oedolion. Caiff canfyddiadau’r ymchwil eu lledaenu’n eang, drwy gyhoeddiadau a chynadleddau academaidd, adroddiadau i awdurdodau lleol, adroddiadau i elusennau a fersiynau hygyrch i’r cyhoedd. 

Ysgrifennwyd gan Sarah Thompson